Achosion o niwmonia mewn lloi wedi gostwng i 10% ar ôl addasu siediau

Mae addasu siediau a chymeriant porthiant o amgylch diddyfnu wedi helpu ffermwr o Gymru sy’n magu lloi i leihau’r achosion o niwmonia yn sylweddol.

 

Mae Hugh Jones a’i fam, Glenys, sy’n ffermio yn Fferm Pentre, Pentrecelyn, yn prynu lloi gwryw Aberdeen Angus o Buitelaar ar gyfartaledd o 36 diwrnod, pan maen nhw’n pwyso 65-85kg.

 

Roedd niwmonia wedi bod yn broblem fawr, gan effeithio ar tua hanner yr holl loi; effeithiodd hyn ar dwf ac, o ganlyniad, ar broffidioldeb.

 

Trwy eu gwaith fel Safle Arddangos Cyswllt Ffermio, mae’r teulu Jones wedi bod yn gweithio gyda’r arbenigwr milfeddygol buchol Owen Atkinson, o Dairy Veterinary Consultancy, i ddatrys y mater hwn.

 

Drwy gyflwyno newidiadau sy’n canolbwyntio ar gynhesrwydd, bwydo a datblygiad y rwmen, bu gwelliant mawr, gydag achosion niwmonia yn gostwng i tua 10%.

 

Gydag arweiniad Mr Atkinson a’r arbenigwr siediau Jamie Robertson, mae newidiadau wedi’u gwneud i’r sied fagu cyn diddyfnu yn Fferm Pentre, er mwyn cadw’r amgylchedd mor sych a chynnes â phosib.

 

Mae haen ddwbl o fyrddau Efrog wedi disodli waliau solet ar ddwy ochr y sied sydd ag wyneb agored, i roi’r amddiffyniad mwyaf posibl i loi rhag drafftiau –cam a gostiodd tua £400; bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisodli’r drydedd wal hefyd.

 

Mae offer dal dŵr sy’n llenwi eu hunain sy’n costio £850 wedi’u hail-leoli ac wedi cymryd lle cafnau dŵr, er mwyn atal lleithder rhag gollwng ar wasarn gwellt.

 

Mae silff 0.75m o led wedi’i gwneud o haearn bocs 40mm a dalennau ‘stockblock’ plastig wedi’i ailgylchu wedi’u gosod yn erbyn hyd gyfan cefn y sied i loi swatio oddi tani er mwyn osgoi unrhyw ddrafft oer.

 

Mae sianel 150mm wedi’i chreu o flaen y sied hefyd, i ganiatáu i leithder ddraenio i mewn iddi o’r graddiant 5° yn y llawr concrit.

 

Mae gosod gwasarn yn amlach gyda gwellt ar flaen y sied yn fesur pellach i gadw’r corlannau yn lân ac yn sych.

 

Yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio yn Fferm Pentre yn ddiweddar, dywedodd Mr Atkinson fod blaen agored y sied yn darparu awyriad – nid yw awyru’r to i fanteisio ar yr effaith stacio yn berthnasol i loi ifanc.

 

“Nid yw lloi yn cynhyrchu digon o wres nes eu bod yn bump neu chwe mis oed i’r effaith stacio weithio,” meddai.

 

Mae angen i sied fod yn gynhesach ar y tu mewn na’r tu allan i sbarduno’r effaith stacio; gydag anifeiliaid mwy, byddai hyn yn cael ei yrru gan aer cynhesach o wres eu corff yn gadael allfa yn y to, gan greu pwysau negyddol sy’n tynnu awyr iach i mewn o’r tu allan, yn debyg i simnai.

 

Dewisiadau eraill yw sied gydag wyneb agored i ganiatáu i lifau gwynt ac aer arferol yrru awyr iach i mewn, neu osod tiwb awyru. Gellir defnyddio bomiau mwg i ganfod drafftiau a llif aer.

 

“Rheol gyffredinol yw y dylai’r mwg o beled mwg safonol gael ei glirio o sied o fewn tua munud,” meddai Mr Atkinson.

 

Defnyddir synhwyrydd LoRaWAN nos a dydd i fonitro tymheredd, lleithder a golau i fesur a oes angen cotiau lloi i leihau straen oerfel.

 

Mae’r strategaeth fwydo ynghylch diddyfnu wedi newid ar Fferm Pentre.

 

Dywedodd Mr Atkinson fod polisi diddyfnu fesul cam, sy’n lleihau cymeriant powdr llaeth dair wythnos cyn diddyfnu, yn annog lloi i fwyta mwy o ddwysfwydydd, gan leihau’r risg o ‘fol gwair’ ar ôl diddyfnu.

 

Mae lloi bellach yn derbyn 375g o bowdr llaeth, wedi’i wanhau i dri litr, unwaith y dydd ar y pwynt tair wythnos hwnnw, yn lle’r swm hwnnw ddwywaith y dydd, ac yn parhau i gael cynnig dwysfwyd ad-lib a dŵr ffres.

 

Caiff lloi eu diddyfnu pan fyddant tua naw wythnos oed, ac ar yr adeg honno maent yn bwyta 2kg o ddwysfwyd y pen y dydd yn gyfforddus.

 

Dywed Mr Jones fod y newidiadau wedi gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd lloi, gyda dim marwolaethau ers iddyn nhw gael eu rhoi yn eu lle.

 

“Mae wir wedi gwneud magu lloi yn bleserus eto,” meddai.

 

Y gaeaf hwn, mae’n bwriadu gwneud mwy o newidiadau i’r sied, trwy insiwleiddio’r to.

 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page