O DAN y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru’n cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o leiaf ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob un o’r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG a’r Awdurdodau Iechyd Arbennig mewn perthynas ag ansawdd, llywodraethu, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Mae amrywiaeth eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw faterion a llywio’r asesiad.
Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith:
Trefniadau arferol; Monitro uwch; Ymyrraeth wedi’i thargedu a Mesurau arbennig
Meddai Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Yn dilyn y cyfarfod, gwnaeth Prif Weithredwr GIG Cymru yr argymhellion a ganlyn imi:
Uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y lefel ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid ac iddo barhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad; ac
Isgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at y lefel trefniadau arferol ar gyfer cynllunio a chyllid, ond iddo barhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad.
Rwyf wedi cytuno i’r argymhellion hyn am y rhesymau canlynol:
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei uwchgyfeirio at y lefel ymyrraeth wedi’i thargedu o’r lefel monitro uwch ar gyfer cyllid a chynllunio oherwydd nad oedd yn gallu cyflwyno Cynllun Tymor Canolig Integredig cytbwys a chymeradwy neu gynllun blynyddol terfynol ac mae diffyg ariannol cynyddol yn cael ei adrodd. O ran ansawdd a pherfformiad, mae yna bryderon ynghylch gofal brys ac argyfwng, gan gynnwys trosglwyddo cleifion o ambiwlans, canser a pherfformiad yn erbyn rhan 1a o’r mesur gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cael ei isgyfeirio at y lefel trefniadau arferol o’r lefel monitro uwch ar gyfer cyllid a chynllunio oherwydd bod ganddo Gynllun Tymor Canolig Integredig cymeradwy. Bydd y bwrdd iechyd yn parhau ar y lefel monitro uwch ar gyfer ansawdd a pherfformiad gan fod pryderon yn parhau ynghylch cyflymder ailddechrau gofal a gynlluniwyd, canser ac amrywiadau dyddiol mewn gofal brys ac argyfwng.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.