MAE Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei gynigion cyffrous yng nghynllun Llwybr Dyffryn Tywi i greu llwybr rhannu defnydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng Abergwili a Ffair-fach, Llandeilo. Byddai’r llwybr arfaethedig yn cysylltu cymunedau drwy lwybr diogel, oddi ar y ffordd yn bennaf, a gellid ei ddefnyddio at ddibenion hamdden, mynd i’r gwaith a chyrraedd gwasanaethau lleol.
Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio i gasglu barn pobl am y datblygiad arfaethedig ar ran ddwyreiniol Llwybr Dyffryn Tywi, a fydd yn datblygu llwybr cerdded a beicio newydd rhwng Ffair-fach a Nantgaredig, ynghyd â gwaith peirianneg a thirweddu cysylltiedig.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 28 diwrnod rhwng 3 Hydref a 31 Hydref. Mae ar gael ar-lein ac mae copïau caled ar gael yn Llyfrgell Llandeilo ac Amgueddfa Abergwili.
Gallwch weld copïau digidol o’r cais arfaethedig yma PinPoint ConnectALL – Camarthen (pinpointcloud.co.uk) ac mae copïau caled o’r cais ar gael yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili, a Llyfrgell Gyhoeddus Llandeilo.
Rhaid i unrhyw un sydd am gyflwyno sylwadau ar y datblygiad arfaethedig hwn ysgrifennu at yr asiant, Russell Borthwick, Prif Gynllunydd Tref, WSP yn y DU, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd. CF10 4BZ. E-bost: tvp.pac@wsp.com. Dylai pob gohebiaeth nodi enw’r cynllun: Llwybr Dyffryn Tywi. Gofynnir i chi ymateb erbyn 31/10/2022.
Mae gan y llwybr arfaethedig, sy’n mynd heibio i nifer o safleoedd hanesyddol a mannau o ddiddordeb, fel Tŵr Paxton, Castell Dryslwyn a Chastell Dinefwr, botensial i fod yn atyniad i ymwelwyr. Byddai Llwybr Dyffryn Tywi yn mynd ar hyd rhannau o’r hen reilffordd o Gaerfyrddin i Landeilo ac yn wastad yn bennaf, gydag ychydig o riwiau.
Yn y cynnig mae cynlluniau i godi dwy bont fawr ar hyd y llwybr, dros afonydd Tywi a Chothi, yn ogystal â phont lai arall dros afon Gwynon.
Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:
“Rydym eisoes wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer rhan orllewinol Llwybr Dyffryn Tywi, o Abergwili i Nantgaredig, ac rydym bellach am ymgysylltu â phobl a gofyn am eu barn am ran ddwyreiniol y prosiect hwn, sy’n cynnwys Nantgaredig i Ffair-fach.
“Fy neges i’r gymuned leol yw, cofiwch gymryd rhan. Rydym wir eisiau cynnwys eich barn yn ein cynigion, gan y bydd yn ein helpu i wella ein cais cynllunio cyn i ni ei gyflwyno, gan osgoi costau ac oedi diangen drwy sicrhau bod yr holl faterion perthnasol yn cael sylw yn y cam cynharaf.
“Mae cynllun Llwybr Dyffryn Tywi wedi bod yn cael ei ddatblygu ers sawl blwyddyn a dyma’r cam diweddaraf i ddarparu llwybr beicio a cherdded o Gaerfyrddin i Landeilo a fydd yn hwb enfawr i drefi a phentrefi lleol a thwristiaeth ar draws ein sir.”
