Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi ennill mwy o Faneri Glas na’r un lle arall yng Nghymru.
Mae Cefn Sidan wedi ennill statws arbennig y Faner Las unwaith eto, sy’n golygu mai dyma’r safle sydd wedi cael y nifer fwyaf o Faneri Glas yng Nghymru ers 1988.
Mae wedi ennill y statws hwn bob blwyddyn ers 2009, ar wahân i 2020 pan gafodd y gwobrau eu gohirio oherwydd pandemig y coronafeirws.
Hefyd, Cefn Sidan oedd y traeth cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr ryngwladol.
Mae gwobr y Faner Las dim ond yn cael ei rhoi i draethau, marinas a harbyrau sy’n meddu ar yr ansawdd gorau posibl o ran dŵr, addysg a rheolaeth amgylcheddol, diogelwch a gwasanaethau. Dengys y wobr fod hwn yn safle sy’n rhoi profiad o’r radd flaenaf i bobl leol ac i ymwelwyr â Sir Gâr.
Mae’r atyniad poblogaidd i dwristiaid hefyd wedi ennill gwobr y Faner Werdd am y pedair blynedd diwethaf, oherwydd bod ei fannau gwyrdd ysbrydoledig o’r safon uchaf posibl, yn cael eu cynnal a’u cadw’n hyfryd, ac yn cynnwys cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rwy’n falch iawn ein bod yn parhau i gyrraedd y safonau hyn o flwyddyn i flwyddyn. Mae Parc Gwledig Pen-bre a Thraeth Cefn Sidan yn un o brif atyniadau Cymru i dwristiaid, sydd â rhywbeth i’w gynnig i bawb. Mae’r wobr hon yn symboleiddio safon ac yn rhoi sicrwydd i ymwelwyr a thwristiaid wrth chwilio am le i ymweld ag e.”
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.