Trawsnewid Cwm Tawe Isaf dros y degawdau

DROS 60 mlynedd yn ôl defnyddiwyd rhan o Gwm Tawe Isaf fel tir gwastraff ôl-ddiwydiannol. Roedd cenedlaethau o ddiwydiant trwm wedi creithio’r ardal o gwmpas yr afon Tawe gyda diffeithwch diwydiannol.

Prin yr oedd pobl yn dewis mynd yno – felly roedd angen newid.

Dyna pam y gwnaeth cynghorwyr Abertawe ar y pryd ddylunio cynlluniau mawr i roi dyfodol disglair i’r ardal ac, mewn partneriaeth ag eraill, ddechreuon nhw gyflawni’r cynlluniau hyn.

Ym 1961, roedd y stori arweiniol ar dudalen blaen y South Wales Evening Post yn dechrau fel a ganlyn, “Tackling the eyesore at Landore: First practical step to restoring to use the devastated acres on the eastern approach to Swansea was announced today.”

Erbyn hyn, mae pobl yn byw yno mewn lleoliadau dymunol fel yr Ardal Gopr, yn gwylio’r Elyrch, y Gweilch a chyngherddau o’r radd flaenaf mewn stadiwm tra chyfoes, yn reidio ac yn cerdded drwy goetiroedd hardd, yn siopa mewn siopau fel Morrisons a B&Q – ac yn gwneud llawer o fusnes yno.

Ac mae cynghorwyr heddiw am barhau â’r stori lwyddiant anhygoel hon. Mae camau ymarferol pellach yn cael eu cymryd i roi dyfodol mawr i’r rhan hanesyddol hon o Abertawe.

Mae’r cwmni diodydd Cymreig, Penderyn, yn paratoi i agor distyllfa a chanolfan ymwelwyr ar hen safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, mae rhagor o lwybrau beicio a cherdded wedi’u cynllunio ac mae pontŵn yn cael ei osod ar gyfer teithiau cwch a gweithgareddau eraill.

Mae’r datblygwr Urban Splash, sy’n enwog yn fyd-eang, yn ystyried sut orau i ddatblygu hen safle gorsaf drenau St Thomas, ac mae Cyngor Abertawe’n cynnal sgyrsiau parhaus â Skyline Enterprises, sy’n cynnig atyniad llawn adrenalin i ymwelwyr ar Fynydd Cilfái.

Mae gwelliannau eraill hefyd yn cael eu cynllunio.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies:

“Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae ein cynghorau lleol a’u partneriaid wedi trawsnewid Cwm Tawe Isaf, a oedd yn arfer bod yn safle nad oedd unrhyw un am fynd iddo, yn safle sy’n weithredol yn economaidd, yn wych ar gyfer bioamrywiaeth ac yn gyrchfan hamdden pwysig.

“Rydym eisiau mynd â’r safle i’r cam nesaf drwy gyflwyno atyniadau newydd ac agor coridor yr afon i fusnesau a gwaith eraill, ychwanegu rhagor o natur yno a rhagor o gyfleoedd hamdden.”

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart:

“Mae digon o ymarferion ymgynghori cyhoeddus i ddod ar gynlluniau fel prosiect Skyline. Rydym am gadw a gwella’r gwyrddni ar fynydd Cilfái – ac ni fydd unrhyw geir cebl yn mynd dros gartrefi pobl.

“Rydym yn amddiffyn ac yn dathlu ein hanes yn ogystal â dod â gwelliannau cyffrous i bobl leol ac ymwelwyr.”

Bydd sicrhau cyllid gan amrywiaeth o ffynonellau yn allweddol ar gyfer hyn, fel yn y gorffennol.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page