Clefyd Coed Ynn – Os ydych yn berchen ar goeden, eich cyfrifoldeb chi ydyw

Bydd clefyd coed ynn yn parhau i fod yn nodwedd ar ein tirwedd, felly mae’n bwysig bod pob un sy’n berchen ar goed yr effeithir arnynt yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol. Os ydych yn berchen ar goeden, eich cyfrifoldeb chi ydyw.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ei ymdrechion i reoli effeithiau’r clefyd, yn canolbwyntio ar y coed sy’n peri risg i bobl ac eiddo. Mae hyn yn cynnwys coed o fewn pellter cwympo i ffyrdd a phalmentydd, ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ac adeiladau. Mae coed a gwrychoedd wrth ymyl ffyrdd fel arfer yn rhan o’r daliad tir cyfagos a chyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw’r rhain.

Yr arfer cydnabyddedig erbyn hyn yw y dylid ystyried cwympo coed sy’n dangos clefyd yn 50% o’u corun, ac sy’n peri’r risg hon. Mae gan goed sydd wedi cael y clefyd ers peth amser ffurf unigryw iawn ac mae’n hawdd eu hadnabod gan fod ganddynt brinder o frigau bach, dwysedd isel o ran dail yn yr haf a llawer o bren marw.

Bob haf, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arolygu coed ynn sy’n tyfu ochr yn ochr â ffyrdd A a B, gan nodi’r rhai sy’n dangos arwyddion sylweddol o’r clefyd ac sy’n fygythiad i ddiogelwch priffyrdd. Yn ystod yr haf eleni cofnodwyd dros 4,000 o goed o’r fath. Mae tirfeddianwyr preifat yn gyfrifol am y mwyafrif helaeth o’r rhain, ac mae llawer eisoes yn trefnu cwympo’r coed y maent yn gyfrifol amdanynt. Lle na chymerir camau gweithredu, bydd y Cyngor yn defnyddio pwerau o dan y Ddeddf Priffyrdd i ofyn i dirfeddianwyr gwympo coed marw a pheryglus.

Oherwydd bod coed ynn heintiedig yn dod yn frau iawn, dylid eu cwympo gan feddygon coed proffesiynol sy’n defnyddio offer priodol. Fel arfer, mae’r gwaith hwn yn gofyn am ddefnyddio platfform uchel.

Mae’r gaeaf yn amser da i gael gwared ar y coed heintiedig a dim ond y rhan honno o’r goeden a allai ddisgyn ar y ffordd neu ardal gyhoeddus neu ddifrodi eiddo y mae’n rhaid ei thorri. Weithiau gellir gadael rhannau isaf y goeden yn sefyll i ddarparu cartref i fywyd gwyllt; gall defnyddio platfform uchel olygu ei bod hi’n bosibl gwneud hyn.

Er mwyn gwneud iawn am golli coed ynn yn ein tirwedd, anogir tirfeddianwyr i blannu coed newydd mewn mannau eraill ar eu tir ac mae Swyddog Coetir y Cyngor yn gallu rhoi cyngor am ddim ynghylch hyn. GHellier@sirgar.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio: “Mae’n bwysig bod tirfeddianwyr yn ymwybodol o’u gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod coed ar eu tir yn cael eu cynnal i safon ddiogel ac nad ydynt yn peri risg i’r cyhoedd.

“Gallwch ymgynghori â thyfwr coed os nad ydych yn siŵr am iechyd coeden ar eich tir ond, fel Cyngor Sir, byddem bob amser yn cynghori bod tirfeddianwyr yn defnyddio meddyg coed achrededig i gwympo coeden er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud gan ddefnyddio’r safonau diogelwch a phroffesiynol uchaf.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen Clefyd Coed Ynn ar wefan y Cyngor.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page