Rhaglen ddogfen newydd yn taflu goleuni ar nyrsys canolbarth a gorllewin Cymru

Bydd saith nyrs newydd gymhwyso sy’n gofalu am gleifion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd.

Yng nghyfres newydd sbon y BBC ‘Rookie Nurses’, sy’n dechrau ar BBCThree ar 17 Mai am 9.00pm, ac ar BBC One Wales ar 22 Mai am 10.40pm, cawn glywed gan rai o nyrsys mwyaf newydd canolbarth a gorllewin Cymru wrth iddynt gychwyn ar eu taith fel nyrsys proffesiynol cymwys.

Mae’r gyfres yn dangos bywydau nyrsys ifanc sydd newydd gymhwyso sy’n gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal iechyd. Wedi’i adrodd o safbwynt y nyrsys, mae’n dilyn hanesion y sefyllfaoedd heriol y maent yn eu hwynebu bob dydd, gan eu gweld yn gofalu am gleifion a’u teuluoedd trwy’r hyn a all fod yr adegau anoddaf yn eu bywydau.

Yn ystod y gyfres, cawn glywed gan nyrsys Mikey, Leah, Caitlin, Georgina, Nivea, Issie ac Angelo, wrth iddynt ddechrau eu swyddi fel nyrsys cymwysedig llawn, gan ddysgu sut i ddelio â chymhlethdodau bywyd, marwolaeth a phopeth rhyngddynt.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch o weld gwaith rhai o’n nyrsys newydd gymhwyso, o wahanol wasanaethau ar draws y bwrdd iechyd, yn cael ei arddangos yng nghyfres y BBC, Rookie Nurses.

“Mae’n taflu goleuni ar y proffesiwn ysbrydoledig hwn ac yn dangos pa mor amrywiol yw rôl nyrsio a’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael ynddi.

“Mae’r rhaglen yn adlewyrchu llawer o’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau a wynebir gan nyrsys mewn gofal iechyd heddiw ac mae’n amlwg gweld y brwdfrydedd, y gofal a’r angerdd sydd gan ein nyrsys dros eu cleifion a’u proffesiwn.

“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â chreu’r gyfres, y rhai o flaen y camera ac eraill y tu ôl i’r llenni.”

Mae’r gyfres ffeithiol galonogol hon yn cynnwys cast amrywiol o nyrsys sydd newydd gymhwyso yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol, yn dilyn eu straeon wrth iddynt ddatblygu ac yn dangos sut beth yw bod yn nyrs ifanc heddiw.

I ddilyn y straeon a darganfod beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn nyrs yng Nghymru heddiw gwyliwch Rookie Nurses ar BBCThree neu BBC iPlayer o 17 Mai 2023, ac ar BBC One Wales ar 22 Mai 2023.

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: