Erlyn dau berson am achosi dioddefaint diangen i dda byw

Mae mam a mab wedi cael eu herlyn ar ôl achosi dioddefaint diangen i dda byw ar eu fferm.

Cafodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas, Cildywyll, Llanddowror, sydd wedi bod yn ffermio ers 38 mlynedd, eu dedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli, ar 24 Chwefror. Cafodd y diffynyddion ddedfryd o 20 wythnos o garchar, wedi’i gohirio am 24 mis, a fydd yn cydredeg a bydd yn rhaid iddynt gwblhau 200 awr o waith di-dâl, 25 diwrnod o Ofynion Gweithgareddau Adsefydlu ac ad-dalu costau o £2700.

Rhybudd – mae’r wybodaeth ganlynol yn cynnwys manylion dioddefaint anifeiliaid a gallai beri gofid i’r darllenydd.

Yn dilyn pryderon lles, cynhaliwyd ymweliad dirybudd yng Nghildywyll ym mis Chwefror 2022 gan Swyddog Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin a Milfeddyg o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Wrth i’r swyddogion agosáu at y fferm o’r dreif, daethant ar draws buwch frown denau iawn, oedd yn gorwedd i lawr mewn cae ar ei phen ei hun. Roedd y fuwch newydd fwrw llo. Ar y dechrau, credwyd bod y fuwch a’r llo wedi marw; ond er bod y fuwch yn fyw, roedd ei llo wedi marw. Nid oedd neb wedi cadw llygad ar y fuwch yn ystod yr enedigaeth, felly bu farw’r llo.

Mewn sied ar y fferm, daeth swyddogion o hyd i fuwch arall yn gorwedd mewn baw ar ei hochr dde gyda’i choesau’n agos at ei chorff. I ddechrau roedd yn ymddangos fod y fuwch wedi marw nes iddi gael ei gweld yn anadlu. Roedd y fuwch mewn cyflwr gael yn gorfforol, heb unrhyw dystiolaeth o fwyd na dŵr o’i blaen a dim lle sych i orwedd. Tu ôl i’r fuwch, ac yn erbyn wal, oedd ei llo oedd wedi marw. Roedd y fuwch wedi bod yn gorwedd yn y cyflwr hwnnw, heb ei thrin ers iddi fwrw llo 5 diwrnod ynghynt. Wedi cael cyngor gan filfeddyg y fferm, bu’n rhaid rhoi’r fuwch i gysgu.

O fewn llociau’r lloeau, roedd llo gorwedd na allai godi. Ar ôl asesu’r llo, cynghorwyd i roi’r llo i gysgu oherwydd niwmonia difrifol. Roedd angen trin sawl llo arall am niwmonia hefyd ond nid oeddent wedi derbyn unrhyw driniaeth filfeddygol.

Yn y sied ddefaid, daeth swyddogion o hyd i nifer o ddefaid cloff oedd heb eu trin. Cafodd dwy famog gorwedd eu hasesu gan filfeddyg a chynghorwyd bod y ddwy famog yn cael eu rhoi i gysgu.

Doedd gan y gwartheg, y lloeau na’r defaid ddim mynediad at ddŵr yfed ffres a gwnaethant yfed yn syth pan roddodd y swyddogion ddŵr iddyn nhw.

Roedd 19 o garcasau gwartheg a 3 o garcasau defaid o gwmpas y fferm mewn gwahanol gyflyrau o bydredd lle’r oedd bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, gan gynnwys moch, yn cael mynediad i’r carcasau.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae manylion yr achos hwn yn warthus ac yn ofidus i’w darllen. Rhaid i mi ddiolch i’n Swyddogion Iechyd Anifeiliaid am eu gwaith ar yr achos anodd hwn ac am ddwyn y troseddwyr gerbron y llysoedd. Byddwn ni, fel cyngor, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn pobl sy’n cam-drin anifeiliaid gerbron y llysoedd.

“Mae’n bwysig pwysleisio bod ein Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yma hefyd i gefnogi ffermwyr a’u bod yn gallu cynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n wynebu anawsterau o ran gofalu am eu da byw. Os ydych chi’n cael trafferth, cysylltwch â’n tîm ar 01554 742249 neu anfonwch e-bost at cccanimalhealth@sirgar.gov.uk”

Plediodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas yn euog i 4 achos o droseddau adran 4, a 3 achos o droseddau adran 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, drwy achosi dioddefaint diangen.

Hefyd methodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas â chael gwared ar ddeunydd Categori 1 heb oedi’n ormodol ac nid oeddent wedi sicrhau nad oedd gan yr un anifail nac aderyn fynediad i’r carcasau.

Methodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas â rhoi gwybod am farwolaeth o fewn 7 diwrnod ac felly roeddent wedi methu â chydymffurfio â Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007.

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: