Ymestyn cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru i fwy na 400k o aelwydydd incwm isel

BYDD dros 400,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn gymwys am daliad o £200 i helpu i gadw eu cartrefi’n gynnes yr hydref a’r gaeaf hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £90m yng Nghynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru i gydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar y rhai sy’n ei chael yn anodd talu eu biliau ynni.

Yn flaenorol, cafodd tua 166,000 o aelwydydd a oedd ar gredyd cynhwysol, yr hen fudd-daliadau a ddyfernid ar sail prawf modd a chredydau treth gwaith Daliad Tanwydd Gaeaf o £200 ar gyfer 2021/22.

Bydd ymestyn y cynllun cymorth tanwydd yn golygu y bydd bron i 200,000 yn fwy o aelwydydd sydd ar gredyd treth plant, credyd pensiwn, budd-dal pobl anabl, lwfans gofalwr, budd-dal cyfrannol a’r rhai sy’n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor i dalu eu bil treth gyngor bellach yn gymwys.

Mae’r cynllun yn cael ei ymestyn gan fod effaith yr argyfwng costau byw presennol yn fwy ar aelwydydd incwm isel, ac er mwyn caniatáu i fwy o aelwydydd sydd ar fudd-daliadau fod yn gymwys.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod y cynllun yn cael ei ymestyn fel y gallai’r rhai mwyaf agored i niwed sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd fforddio cadw eu cartrefi’n gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer o aelwydydd yn teimlo’n bryderus am eu biliau ynni cynyddol, ac felly rydyn ni’n gobeithio y bydd ymestyn Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru i lawer yn fwy o bobl yn rhywfaint o gysur yn y cyfnod heriol hwn.”

Daw hyn ar ôl i’r Gweinidog gyhoeddi yn gynharach eleni y byddai taliad Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf 2021/22 yn cael ei ddyblu i £200 wrth i’r argyfwng costau byw ddwysáu, ac er mwyn cefnogi aelwydydd cymwys gyda biliau a chostau ynni cynyddol.

Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd estynedig yn cynnwys y £4m a gyhoeddwyd fis diwethaf ar gyfer y cynllun talebau tanwydd i gefnogi’r rhai ar fesuryddion talu ymlaen llaw ac aelwydydd nad ydynt wedi’u cysylltu âr prif gyflenwad nwy.

Daw’r cyllid ychwanegol hwn i grwpiau targed wrth i aelwydydd ledled Cymru ei chael yn anodd talu biliau ynni uwch, a’r codiad i’r cap ar ynni domestig ym mis Ebrill yn gwaethygu’r sefyllfa ymhellach. Disgwylir cynnydd pellach yng nghost ynni a thaliadau sefydlog yn yr hydref. Pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yw’r rhai mwyaf agored i gostau cynyddol a thaliadau sefydlog uwch.

Ychwanegodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl ledled Cymru yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw, wrth iddyn nhw weld chwyddiant, petrol, eitemau cartref hanfodol a biliau ynni i gyd yn codi.

Rydyn ni’n targedu aelwydydd incwm isel gyda’r Cynllun Cymorth Tanwydd ac yn ymestyn nifer y rhai sy’n gymwys, gan ein bod yn deall mai misoedd y gaeaf sy’n gallu bod anoddaf, wrth i deuluoedd orfod gwneud y dewis anodd rhwng gwresogi eu cartref a bwyta.

Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi â’r cyfnod anodd hwn.’

Ymwelodd y Gweinidog â Gweithdy DOVE ym Manwen, Castell-nedd ddydd Mercher (20 Gorffennaf), i gyfarfod â phobl a fydd bellach yn gymwys ar gyfer cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rheini ar aelwydydd lle mae rhywun yn derbyn Lwfans Gofalwr, Credyd Pensiwn neu fudd-dal pobl anabl.

Meddai Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:

“Mae Gofalwyr Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad hwn gan ein bod ni wedi gofyn am i’r meini prawf cymhwysedd gael eu hymestyn i gynnwys Lwfans Gofalwr, a’r hen fudd-daliadau a’r rhai cyfrannol eraill i gefnogi’r nifer fwyaf bosibl o ofalwyr di-dâl.

Mae ein hymchwil yn dangos bod gofalwyr eisoes yn ei chael yn anodd ymdopi’n ariannol, ac mae hyn wedi’i ddwysáu gan yr argyfwng costau byw.

Mae gofalwyr yn codi pryderon sylweddol am sut y byddan nhw’n ymdopi y gaeaf hwn, ac felly mae popeth y mae modd ei wneud i helpu i leddfu’r pwysau yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page