MAE arwyddion wedi eu codi yn Noc y Gogledd a Pharc Dŵr y Sandy, Llanelli i rybuddio pobl rhag algâu gwyrddlas.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio’r cyhoedd i osgoi dod i gysylltiad â’r dŵr tra bydd yr arwyddion yn rhybuddio rhag y posibilrwydd o groeshalogi drwy achosion naturiol.
Gall yr algâu achosi i bobl ac anifeiliaid fod yn sâl, felly cynghorir y cyhoedd i beidio â nofio yn y dŵr; peidio â llyncu’r dŵr; peidio â chyffwrdd â’r algâu; peidio â gadael i anifeiliaid anwes ddod i gysylltiad â’r dŵr, ac i ddarllen yr arwyddion sydd yn y Doc a’r Parc Dŵr ac ufuddhau iddynt.
Roedd profion a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn Noc y Gogledd ddydd Gwener 12 Awst yn cadarnhau bod algâu’n bresennol yno. Bydd y sefyllfa’n cael ei monitro hyd nes y rhoddir gwybod bod y perygl drosodd.
Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae cynnydd mawr mewn algâu gwyrddlas yn ddigwyddiad naturiol sy’n digwydd o bryd i’w gilydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd twym. Rydym yn annog pobl i dalu sylw i’r rhybudd rydym wedi ei gyhoeddi, gan taw diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd.”
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y gall yr algâu gynhyrchu tocsinau sy’n gallu achosi brech ar y croen, cyfog, chwydu, poenau stumog, twymyn a phen tost os yw’n cael ei lyncu.
Unrhyw bryderon iechyd, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 111.