Gwnewch wahaniaeth. Dewch i weithio yn Sir Gaerfyrddin

Cyhoeddwyd heddiw, June 2, ar stondin Cyngor Sir Caerfyrddin yn Eisteddfod yr Urdd fod partneriaeth Arfor wedi sicrhau £3 miliwn i ymestyn menter Llwyddo’n Lleol.

 

Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau dros ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, nod Llwyddo’n Lleol yw perswadio’r rhai sydd fwyaf tebygol o fynd, neu sydd eisoes wedi gadael, bod dyfodol a ffyniant economaidd iddynt mewn ardaloedd gwledig yng ngorllewin Cymru.

 

Bwriad rhaglen Arfor yw i hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes a gwytnwch cymunedol gan ganolbwyntio ar yr iaith Gymraeg.

 

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Yr wythnos yma, ar faes Eisteddfod yr Urdd 2023 a thu hwnt, rydym ni yma yn Sir Gâr yn dathlu ein hieuenctid a’r Gymraeg, mae’r ddau drysor yma yn allweddol i ffyniant ein sir ni ac ein cenedl.

 

“Mae’n holl bwysig bod ein pobl ifanc yn teimlo bod dyfodol llewyrchus iddynt yn Sir Gâr ac yn dewis aros yma i weithio, cyfrannu i’r economi a magu teuluoedd eu hun. Mae swyddi a chyfleoedd economaidd yn hanfodol i’r weledigaeth yma ac felly rwy’n croesawi’r gefnogaeth ariannol a ddaw trwy raglen Llwyddo’n Lleol a fydd yn ein helpu i wireddu ein hamcanion uchelgeisiol yr ydym wedi gosod yn ein Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg Sir Gâr; i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn ein sir, gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sir a gwneud i bawb fod yn falch o’r Gymraeg yn Sir Gâr.”

 

Wrth i Eisteddfod yr Urdd ddirwyn i ben, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gobeithio bod preswylwyr ac ymwelwyr â’r sir yn ystod yr ŵyl ieuenctid wythnos o hyd wedi mwynhau’r hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig.

Yn Sir Gaerfyrddin, rydym bob amser yn chwilio am bobl i ddod i weithio i’r awdurdod lleol, i wneud y sir yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i greu gwell Sir Gaerfyrddin? Beth am ymweld â’n gwefan i weld y swyddi gwag presennol.

Sir Gaerfyrddin yw un o’r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a’r cyflogwr mwyaf yn lleol gydag oddeutu 8,300 o staff. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, cynnal a chadw priffyrdd, casglu gwastraff, cyfleusterau chwaraeon a hamdden i enwi ond ychydig. Mae’r cyfleoedd gyrfa gyda ni yn amrywiol ac yn werth chweil!

Rhaglen i Raddedigion

Mae ein rhaglen dros ddwy flynedd i raddedigion wedi’i chynllunio i gynnig cyfleoedd datblygu a fydd yn eich galluogi i dyfu a datblygu fel unigolyn, gan gynnwys ymgymryd â rolau arwain. Mae ein rhaglen yn agored i bob oedran, cyn belled â’ch bod yn meddu ar radd.

Mae pob llwybr yn cynnig cyfuniad o ddysgu trwy gael profiad ymarferol a chyfle i astudio a chael achrediad proffesiynol. Yn ogystal, bydd cyfle i ddysgu a datblygu trwy gyrsiau, seminarau a gweithdai mewnol ac allanol, e.e. cael eich mentora gan uwch-reolwyr a datblygu sgiliau rheoli a chyfathrebu.

Byddwch yn rhan o sefydliad sydd bob amser yn newid, ac rydym yn chwilio am bobl sy’n dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad yn ogystal â hyblygrwydd a chreadigrwydd i ymuno â’n tîm.

Mae Sioned Raymond wedi ymuno gyda Chyngor Sir Gâr trwy’r Rhaglen i Raddedigion ac yn gweithio fel Hyfforddai Graddedig: Swyddog Polisi a Phartneriaeth. Wrth sôn am ei phrofiad hyd yma, dywedodd Sioned:

 

“Wedi i mi raddio o Brifysgol Aberystwyth ar ôl treulio tair blynedd yn astudio cwrs gradd Busnes a Rheolaeth, roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i’m gwreiddiau yn Sir Gâr.

 

“Fel unigolyn ifanc rwyf yn frwdfrydig i wneud fy nghymuned yn lle gwell i fyw ynddi ac yn angerddol dros ddatblygu’r Gymraeg yn fy ngwaith o ddydd i ddydd.

 

“Nôl ym Mawrth 2022, pan gafodd y swyddi graddedig eu rhyddhau, teimlwn ei fod yn gyfle na allwn ei golli, gyda llu o fuddion i’r swydd yn ogystal â gweithio mewn maes sefydlog fel y Sector Cyhoeddus. Un o’r apeliadau mwyaf ar gyfer y rhaglen i raddedigion yw’r gallu i weithio a pharhau gyda fy natblygiad proffesiynol trwy gyflawni Gradd ôl-radd mewn Arfer Proffesiynol.

 

“Roedd y broses ymgeisio yn un hynod fuddiol gyda’r ganolfan asesu yn rhoi cyfle i mi ddangos amrywiaeth o gryfderau sy’n berthnasol i’r swydd. Hyderaf fod y ganolfan asesu wedi rhoi profiad ystyrlon a realistig i mi a’m galluogodd i ddangos fy ngwir botensial. Tanlinellodd y ganolfan asesu sut fyddai’r Cyngor yn cefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu ond ar yr un adeg yn sicrhau bod fy uchelgeisiau personol yn cyd-fynd â gwerthoedd y Cyngor.

 

“Ers i mi ddechrau fy swydd, trwy’r rhaglen raddedigion ddwy flynedd o hyd, fel Swyddog Polisi a Phartneriaeth rwyf wedi cael profiadau ymarferol, dysgu a datblygu trwy gyrsiau, mynychu seminarau a gweithdai mewnol ac allanol. Mae’r holl brofiadau rwyf eisoes wedi ei dderbyn trwy’r swydd wedi fy ngalluogi i dyfu a datblygu fel unigolyn, gan gynnwys ymgymryd â rolau arwain.

 

“Mae’r datblygiad proffesiynol yr wyf wedi ei gael a’i ddatblygu wedi bod yn amhrisiadwy ac rwyf wedi ennill sgiliau a chymwysterau a fydd o gymorth i mi drwy gydol fy llwybr gyrfa.

 

“Bellach rwyf yn agosáu at gwblhau fy mlwyddyn gyntaf yn y swydd, ac yn cael y cyfle i gyflawni amrywiaeth o dasgau o ddydd i ddydd. Yn benodol, gwaith yn ymwneud â’r Gymraeg sydd o ddiddordeb mawr i mi gan fy mod yn awyddus i weld y Gymraeg yn ffynnu yn Sir Gâr.

 

Mae’r swydd wedi agor cymaint o ddrysau newydd i mi ac yn gyfle gwych – Ewch amdani.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu: “Mae wedi bod yn wych gwylio’r ystod eang o gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon a thalent gyfoethog ac amrywiol ein pobl ifanc.

“Pobl ifanc yw ein dyfodol ac fel cyflogwr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i raddedigion. Mae ein gweithlu a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu i’n dinasyddion wrth wraidd y sefydliad hwn, ac rydym yn chwilio am bobl sy’n dangos ymrwymiad ac egni yn ogystal â bod yn hyblyg ac yn greadigol wrth ddarparu ein gwasanaethau.

“Mae ein rhaglen lwyddiannus i raddedigion yn cynnig cyfleoedd cyffrous i’r rhai sy’n gadael y brifysgol gael profiad gwerthfawr a pharhau â’u haddysg mewn sefydliad deinamig a blaengar sy’n newid yn barhaus. Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â’n rhaglen, sy’n agored i bob oedran, a’n helpu i lunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Gaerfyrddin.

“Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr sgiliau dwyieithog llawer o’n staff. Mae yna bwysigrwydd cynyddol i allu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynnal mwy o’i waith drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg uchelgeisiol.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page