Atgoffir rhieni yn Sir Gaerfyrddin bod angen iddynt wneud cais ar-lein am le mewn ysgol ar gyfer eu plentyn.
Mae angen gwneud cais erbyn 22 Rhagfyr ar gyfer disgyblion sy’n dechrau ysgol uwchradd ym mis Medi 2018.
Ni fydd unrhyw drosglwyddo awtomatig, rhaid i’r ceisiadau gael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir erbyn y dyddiad cau, a rhoddir gwybod i rieni am y canlyniad erbyn 1 Mawrth.
Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau ar gyfer plant sydd fod dechrau ysgol feithrin neu ysgol gynradd yw 31 Ionawr 2018.
Os ganed plentyn rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015, gallai ddechrau ysgol llawn amser ym mis Medi 2018 neu ym mis Ionawr/Ebrill 2019.
Gallai plentyn a anwyd rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2016 ddechrau ysgol rhan amser ym mis Ionawr, Ebrill neu fis Medi 2019.
Rhaid i rieni gyflwyno cais ar-lein i gael lle mewn ysgol feithrin neu gynradd, a rhoddir gwybod iddynt am ganlyniad y ceisiadau cynradd ar 16 Ebrill, ac am y ceisiadau meithrin ym mis Hydref.
Gellir cyflwyno cais yn http://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/derbyn-i-ysgolion
Gellir cyflwyno ceisiadau hefyd drwy ddefnyddio ffôn neu lechen, neu gall pobl nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd gysylltu â’u hysgol leol a fydd yn hapus i’w helpu, neu ymweld â’u llyfrgell leol i ddefnyddio’r cyfrifiaduron sydd ar gael yno.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Er bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddymuniadau’r rhieni bob tro, ni ellir gwarantu lle ar gyfer unrhyw blentyn yn yr ysgol o’u dewis.
“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod yr holl geisiadau yn cael eu cyflwyno cyn y dyddiad cau er mwyn ystyried eu dymuniadau.
“Gwneir ceisiadau ar-lein bellach ar gyfer lleoedd mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd. Nid oes angen i blant a anwyd ar ôl mis Awst y flwyddyn ddiwethaf gyflwyno cais eto. Ni fyddant yn cael eu hystyried tan yr adeg briodol.
“Rwy’n annog rhieni i gyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau bod eu dymuniadau’n cael eu hystyried pan fydd y lleoedd mewn ysgolion yn cael eu dyrannu.”
