Canolfan Chwaraeon Carwyn a Lido Brynaman i’w trosglwyddo i grwpiau cymunedol

MAE grŵp chwaraeon lleol, y Chwyrlïwyr Baton wedi cymryd drosodd cyfleuster aml-chwaraeon yng nghanol Cwm Gwendraeth.

Cafodd rheolaeth Canolfan Chwaraeon Carwyn, sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ei throsglwyddo i Baton Twirlers Association Cymru (BTAC) trwy gytundeb prydles a bydd yn caniatáu i’r cyhoedd barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan.

Er bod Canolfan Chwaraeon Carwyn bellach yn gartref swyddogol i BTAC mae cyfleusterau’r ganolfan ar gael i’r gymuned leol a grwpiau chwaraeon eu defnyddio.

Cynhaliwyd ailagoriad swyddogol y Ganolfan, sy’n meddu ar enw un o feibion enwocaf Cwm Gwendraeth, o dan reolaeth newydd BTAC, ddydd Sul, 2 Hydref.

Wrth siarad yn y digwyddiad dywedodd Jessica Shore, Cyfarwyddwr Baton Twirlers Association Cymru (BTAC):

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau’r ganolfan chwaraeon hon ar ran y gymuned leol, ac mae’n bleser croesawu’r cyhoedd yma heddiw. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda grwpiau cymunedol a chwaraeon amrywiol yng Nghanolfan Chwaraeon Carwyn James a chynnig lle iddynt gyfarfod.

“Roedd hefyd yn bwysig iawn i ni ddarparu cartref ar gyfer chwyrlio baton yng Nghymru, a byddwn yn gwneud defnydd gwych o’r cyfleusterau rhagorol yma.”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth “Mae hon yn stori lwyddiannus iawn ar gyfer y BTAC, Cwm Gwendraeth a’r Cyngor gan ein bod wedi sicrhau dyfodol Canolfan Chwaraeon Carwyn James ar gyfer y gymuned leol.

Hoffwn ddiolch i Baton Twirlers Association Cymru am eu gwaith a’u brwdfrydedd yn ystod y broses o drosglwyddo rheolaeth y Ganolfan Chwaraeon iddynt, fel grŵp cymunedol, a dymunaf y gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.”

Ddydd Llun, 3 Hydref, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gynlluniau i brydlesu Lido Brynaman, sy’n cael ei gadw mewn ymddiriedaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin, i Brynamman Lido Limited dan ei raglen trosglwyddo asedau.

O dan y brydles arfaethedig, bydd Brynamman Lido Limited yn cymryd rheolaeth o’r lido gyda’r bwriad i ailagor y pwll nofio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a hamdden.

Yn dilyn cymeradwyo’r cynlluniau gan y Cabinet, dywedodd y Cynghorydd Gareth John:

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda’r grŵp lleol ym Mrynaman i drosglwyddo’r gwaith o reoli a chynnal a chadw’r lido i’r gymuned.

“Bydd trosglwyddo’r ased hwn yn caniatáu i Brynamman Lido Ltd wneud cais am arian drwy grantiau na fyddai ar gael i’r Cyngor Sir, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a darparu cymorth ar hyd y daith i ailagor y lido i’r gymuned.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page