Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cabinet yn amlinellu ‘gweledigaeth’ gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer Sir Gaerfyrddin

GOFYNNIR i drigolion a busnesau Sir Gaerfyrddin helpu i lunio ‘gweledigaeth’ Cabinet y cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Amlinellodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor, weledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol ar gyfer y sir sy’n adlewyrchu’r materion a’r themâu allweddol a nodwyd ers yr etholiadau ym mis Mai.

Mae trigolion yn cael eu hannog i rannu eu barn drwy’r arolwg trigolion, a fydd, ynghyd ag adborth gan staff, a gwaith ymgysylltu ag aelodau lleol ar draws pob grŵp gwleidyddol, yn helpu i ddatblygu’r strategaeth gorfforaethol a gyhoeddir yn yr hydref ac a fydd yn nodi amcanion strategol y cyngor dros y pum mlynedd

Mae’r Cynghorydd Price wedi gwneud nifer o newidiadau i bortffolios y Cabinet mewn ymateb i ddigwyddiadau lleol a byd-eang. Am y tro cyntaf, mae’n cynnwys portffolio penodol ar gyfer newid hinsawdd i ganolbwyntio ar uchelgais y cyngor i fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac ysgogi’r uchelgais hwnnw, ac aelod arweiniol dros drechu tlodi.

Dywedodd y Cynghorydd Price, er ein bod bellach yn y cam adfer yn dilyn pandemig COVID-19, ni allai’r Cabinet anwybyddu ei effaith ar gymunedau.

“Ynghyd â’r argyfwng costau byw presennol, rydym yn gwybod ei fod yn gyfnod anodd ac mae pethau’n debygol o waethygu cyn iddynt wella,” meddai. “Rydym wedi ymrwymo i ddeall anghenion lleol a gweithio gyda phartneriaid i’w diwallu.”

Yn ogystal â mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi, mae datganiad gweledigaeth y Cabinet hefyd yn cynnwys cryfhau’r economi a chynyddu llewyrch, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a’r amgylchedd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Dywedodd y Cynghorydd Price:

“Rwy’n llawn cyffro am y rhaglen a’n hymrwymiadau, yn enwedig o ran trechu tlodi, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, adfywio canol trefi, darparu cartrefi o safon, mynd i’r afael â materion capasiti ac ailgydbwyso’r sector gofal, a darparu gwasanaethau addysg o safon ar draws y sir, ymhlith pethau eraill. Dyma ein man cychwyn fel Cabinet o ran y cyfeiriad a’r math o feysydd yr ydym am ganolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf. Dyma beth sy’n bwysig i ni, y materion pwysig iawn y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw. Ond nid ein barn ni yn unig sy’n bwysig, ac rydym yn awyddus i wrando ar nifer o leisiau, mae hynny wrth gwrs yn cynnwys trigolion Sir Gaerfyrddin sy’n gwbl ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.”

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page