Cyngor Abertawe yn atal gwasanaethau anhanfodol ar gyfer 19 Medi

BYDD Cyngor Abertawe yn atal pob gwasanaeth anhanfodol ddydd Llun 19 Medi i nodi Angladd Gwladol y diweddar EM y Frenhines.

Mae’r diwrnod yn ŵyl banc ac mae llawer o gyflogwyr a manwerthwyr mawr y wlad wedi cyhoeddi y byddant yn cau am y diwrnod.

Bydd holl leoliadau’r cyngor gan gynnwys Neuadd y Ddinas a’r Ganolfan Ddinesig ynghyd â Theatr y Grand, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau cymunedol ar gau i’r cyhoedd. Bydd Marchnad Abertawe ar gau.

Bydd yr holl ysgolion ar gau am y diwrnod.

Bydd casgliadau sbwriel dydd Llun yn cael eu gohirio. Felly, bydd yr holl gasgliadau gwastraff yn digwydd ddiwrnod yn hwyr drwy gydol yr wythnos gan olygu y cesglir sbwriel dydd Llun ar ddydd Mawrth, hyd at gasgliadau arferol dydd Gwener yn cael eu gwneud ddydd Sadwrn. Yna bydd casgliadau’n dychwelyd i’r drefn arferol.

Bydd canolfannau ailgylchu’r cyngor hefyd ar gau i’r cyhoedd ddydd Llun 19 Medi.

Fodd bynnag, bydd gwasanaethau hanfodol yn y gwasanaethau cymdeithasol megis gofal preswyl a gofal cartref yn parhau, ynghyd â gwasanaethau gofal dydd pwysig lle bo’r angen.

Bydd amlosgiadau a chladdedigaethau a drefnwyd ar gyfer dydd Llun yn parhau.

Bydd Gorsaf Fysus Abertawe’n aros ar agor, ond gall gweithredwyr bysus unigol newid eu hamserlenni arferol yn unol â’r ŵyl banc, felly cynghorir teithwyr i wirio cyn cynllunio teithiau.

Bydd yr holl ddigwyddiadau a gynlluniwyd gan y cyngor yn ailddechrau’r wythnos hon, gan gynnwys ras 10k Abertawe y penwythnos hwn, ond bydd unrhyw ddigwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer dydd Llun 19 Medi yn cael eu gohirio.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

“Ymunwn â’r wlad i alaru dros farwolaeth y diweddar EM y Frenhines Elizabeth II.

“Fel arwydd o barch, bydd y cyngor yn cau gwasanaethau anhanfodol ddydd Llun 19 Medi i nodi angladd y diweddar EM y Frenhines ac rydym yn gofyn i’r cyhoedd fod yn ymwybodol y bydd y mwyafrif helaeth o’n gwasanaethau ar gau am y dydd.

“Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn cael eu diogelu a bod ein ffyrdd a’n gwasanaethau trafnidiaeth yn parhau i weithredu.

“Bydd holl ddigwyddiadau’r cyngor yn Abertawe yn ailgychwyn yr wythnos hon, ac eithrio dydd Llun nesaf, sy’n rhoi cyfle i drefnwyr a chyfranogwyr gynllunio.”

Er y bydd y Ganolfan Ddinesig ar gau fel arall, bydd Llyfr Cydymdeimlad Abertawe ar gael yno i bobl ei lofnodi ddydd Llun 19 Medi.

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page