Dweud Eich Dweud ar sut mae plismona lleol yn cael ei ariannu yn Nyfed-Powys 

Heddiw, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi lansio ei ymgynghoriad blynyddol yn gofyn i drigolion ledled ardal Dyfed-Powys rannu eu barn ar gyllideb plismona a phraesept y dreth gyngor y flwyddyn nesaf.

Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiynydd benderfynu faint o gyllid i’w godi’n lleol drwy braesept yr heddlu – y rhan o’ch treth gyngor sy’n helpu i dalu am blismona yn ardal Dyfed-Powys.

Mae plismona yn Nyfed-Powys yn gynyddol ddibynnol ar drethdalwyr lleol. O’r £165 miliwn sydd wedi’i fuddsoddi mewn gwasanaethau plismona a throsedd ar hyn o bryd:

  • Daw 57% o’r arian o’r praesept heddlu lleol a delir gan breswylwyr ledled ardal Dyfed-Powys.
  • Darperir 43% drwy Grant Heddlu’r Llywodraeth.

Golyga hyn fod dros hanner o’r arian a ddefnyddir i gyflwyno gwasanaethau plismona ar draws ardal Dyfed-Powys nawr yn dod yn uniongyrchol o gyfraniadau Treth Gyngor leol.

 

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:

“Mae gosod y lefel gywir o braesept bob amser yn gydbwysedd gofalus rhwng cynnal gwasanaethau plismona hanfodol a chydnabod y pwysau ariannol y mae aelwydydd yn eu hwynebu. Mae eich adborth yn fy helpu i sicrhau bod blaenoriaethau lleol ac anghenion cymunedol yn cael eu hadlewyrchu’n briodol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.”

Mae’r Comisiynydd yn ystyried sawl opsiwn ar gyfer sut y gellid gosod praesept 2027-2028 ac mae eisiau deall sut mae pobl leol yn teimlo am effaith newidiadau posibl.

Mae codiadau praesept blaenorol wedi caniatáu ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau rheng flaen ac ataliol ledled ardal Dyfed-Powys. Mae cyllid wedi cefnogi datblygu Canolfan Reoli’r Heddlu, gan gyflwyno gwelliannau sylweddol i berfformiad trin galwadau 999 ac 101 a helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn ymateb amserol pan mae angen cymorth arnynt.

 

Mae buddsoddiad praesept hefyd wedi cryfhau gweithgarwch atal ac ymyrraeth gynnar drwy’r Rhaglen Atal ac Ymyrraeth, gan ddarparu adnoddau penodol i gefnogi pobl ifainc sydd mewn perygl o fynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r buddsoddiadau targedig hyn yn gwella cyflenwi gwasanaeth uniongyrchol ac yn helpu i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol trosedd a bregusrwydd, gan leihau galw ar yr heddlu ac asiantaethau partner yn y dyfodol.

Wrth osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae CHTh eisiau deall faint y byddai preswylwyr lleol yn barod i gyfrannu tuag at ddiogelu gwasanaethau plismona rheng flaen, cynnal gallu ymateb brys, cefnogi plismona bro, mynd i’r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a buddsoddi mewn gwasanaethau sy’n cadw cymunedau’n ddiogel.

 

Gall trigolion gwblhau’r arolwg byr ar-lein yma: https://forms.cloud.microsoft/e/DpehfG9qC5?origin=lprLink

Neu drwy sganio’r cod QR. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd Iau, 26 Tachwedd 2026 tan 5 Ionawr, 2027.

Bydd yr holl ymatebion yn helpu i lywio cynnig terfynol y Comisiynydd i Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:

“Mae eich barn yn wirioneddol bwysig. Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i ddylanwadu ar sut mae plismona’n cael ei ariannu’n lleol ac i’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd.”

Am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a sut mae’r praesept yn cefnogi plismona yn eich ardal, ewch i: Dyfed-Powys Police & Crime Commissioner

 

Cyswllt:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

You cannot copy any content of this page