Mae Jason Clifton wedi codi swm arbennig o £1,500 i Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili.
Drwy gydol mis Awst 2022, rhedodd Jason 200km i gefnogi Adran Canser y Pen a’r Gwddf yng Nglangwili a’r tîm Radiotherapi yn Ysbyty Singleton, lle cafodd ofal anhygoel.
Cafodd Jason ddiagnosis o garsinoma celloedd cennog ym mis Rhagfyr 2021. Cafodd 30 rownd o radiotherapi a dwy ddos o gemotherapi dros gyfnod o dri mis.
Rhwng ei ddiagnosis a’i driniaeth, dioddefodd Jason hefyd golled drasig ei dad a thri aelod arall o’r teulu.
Dywedodd Jason: “Dechreuais redeg ar ôl i’m triniaeth ddod i ben. Roedd mynd allan ym myd natur wedi fy helpu yn aruthrol. Fe wnes i therapi dŵr oer hefyd. Penderfynais redeg 200km ym mis Awst i helpu eraill ac i roi yn ôl i Adran Canser y Pen a’r Gwddf yn Ysbyty Glangwili a Radiotherapi yn Ysbyty Singleton.
“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am y rhoddion, cymorth a chefnogaeth anhygoel.
Yn y llun o’r chwith i’r dde: Mr Vinod Prabhu, Ymgynghorydd ENT/ Llawfeddyg Canser y Pen a’r Gwddf; Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf; Alis Evans, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf; Jason Clifton a Claire Rumble, Swyddog Codi Arian.
Dywedodd Anwen Butten, Nyrs Glinigol Arbenigol Canser y Pen a’r Gwddf: “Hoffai Tîm Canser y Pen a’r Gwddf Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddiolch o galon i Jason.
“Bydd y rhoddion hael hyn yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer i gleifion canser y pen a’r gwddf a’u teuluoedd cyn ac ar ôl triniaeth, yn ystod eu hadferiad hirdymor a darparu cymorth i’n cleifion lliniarol”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk