Hywel Dda yn croesawu 45 o nyrsys rhyngwladol

MAE Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi recriwtio 45 o nyrsys rhyngwladol ac mae’n bwriadu cynyddu’r nifer hwn yn sylweddol dros y misoedd nesaf.

Mae nyrsys rhyngwladol wedi bod yn rhan o’r GIG ers ei sefydlu ym 1948 ac maent yn parhau i chwarae rhan hanfodol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn anelu at recriwtio 100 o nyrsys rhyngwladol eleni drwy’r rhaglen a ddarperir yn ganolog gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, byrddau iechyd lleol a Llywodraeth Cymru.

Mae’r nyrsys sydd newydd eu recriwtio yn rhan o brosiect ehangach i wella ac ehangu gweithlu nyrsio’r bwrdd iechyd a fydd yn helpu i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion.

Cyrhaeddodd y garfan gyntaf o 11 nyrs ym mis Mai. Mae’r nyrsys wedi sefyll eu harchwiliad clinigol gwrthrychol strwythuredig (OSCE) ac maent wedi’u lleoli yn ysbytai Glangwili a Thywysog Philip

Cyrhaeddodd yr ail garfan o nyrsys ym mis Mehefin. Mae’r grŵp o 19 o nyrsys hefyd wedi cymryd eu OSCE ac wedi’u lleoli ar draws ysbytai Glangwili, Tywysog Philip a Bronglais.

Cyrhaeddodd y drydedd garfan o nyrsys ym mis Gorffennaf ac ar hyn o bryd maent yn cael hyfforddiant OSCE i baratoi ar gyfer eu harchwiliad. Mae’r 15 nyrs wedi’u gwasgaru ar draws ysbytai Glangwili, Tywysog Philip, Llwynhelyg a Bronglais.

Dywedodd Judith Avan o Nigeria, sy’n gweithio yn Ysbyty Bronglais:

“Mae byw yng Nghymru wedi bod yn hyfryd, mae pobl mor groesawgar, ac mae’r tywydd wedi bod mor hyfryd. Edrychaf ymlaen at ddatblygu yn fy ngyrfa ac arbenigo mewn therapi anadlol.”

Dywedodd Nabita Kabeer o India, sy’n gweithio yn Ysbyty Glangwili: “Rwy’n gyffrous am weithio gyda GIG Cymru. Edrychaf ymlaen at fwynhau harddwch Cymru a datblygu yn fy ngyrfa. Rwyf am arbenigo mewn rheoli heintiau neu nyrsio theatr llawdriniaethau neu nyrsio fforensig.”

Meddai Oyebola Opemipo Tikolo o Nigeria, sy’n gweithio yn Ysbyty Glangwili:

“Mae wedi bod yn brofiad braf ar y ward ac oddi arni, mae’r bobl yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu yn fy ngyrfa drwy gymryd mwy o gyrsiau, rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddod â fy nheulu draw ac ymgartrefu yma. Rwy’n bwriadu arbenigo mewn bydwreigiaeth gan fod gennyf brofiad mewn bydwreigiaeth.”

Dull gweithredu’r BIP o ddenu a chadw ei weithwyr yw bod yn sefydliad sy’n seiliedig ar werth.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Lisa Gostling:

“Rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn barhaus i fod y gorau y gallwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Rydym am ddenu gweithlu amrywiol ac rydym yn falch iawn o groesawu’r nyrsys sydd newydd eu recriwtio i deulu Hywel Dda.”

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: