Cymunedau am Waith a Mwy wrth law i gynorthwyo pobl fel Tina Evans gyda chymorth anabledd

MAE merch yn wreiddiol o Pontyberem, Tina Evans, newydd ymuno a thîm cyflwyno BBC Cymru ac sy’n gohebu o Gemau’r Gymanwlad yn Birmingham ar hyn o bryd.

Wrth baratoi ar gyfer dechrau ei swydd newydd, gofynnodd Tina am gymorth gan raglen Cymunedau am Waith a Mwy Cyngor Sir Caerfyrddin i helpu i oresgyn sawl rhwystr, megis mynediad at waith a chyfathrebu â’r gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Tina yn gwynebu nifer o heriau, oherwydd anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor, ac mae angen llawer o gymorth arni o ran symudedd a gofal bob dydd, gan ei bod yn ddefnyddiwr cadair olwyn.

Cyn dechrau ei swydd newydd gyda’r BBC, dywedodd Tina

“Roeddwn i wedi cael cynnig swydd gyda BBC Cymru, fel rhan o’r tîm cyflwyno, ac roedd angen i mi drefnu cymorth yn ystod fy rôl. Gan fod amser yn brin, fe wnes i gysylltu â’r ganolfan Cymunedau am Waith a Mwy gyda’r gobaith o gyflymu pethau. Hwn oedd y penderfyniad gorau wnes i. Ar ôl siarad â’r tîm, roeddwn i’n teimlo bod fy mhryderon wedi lleihau’n sylweddol gan nad oeddwn i’n trefnu pethau ar fy mhen fy hun bellach.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Desiree o’r tîm Cymunedau am Waith a Mwy. Fe wnaeth hi fy helpu drwy alwadau ffôn gyda mynediad at waith a gwasanaethau cymdeithasol a thrwy gysylltu â nhw i wneud yn siŵr ein bod yn bodloni’r dyddiadau cau angenrheidiol. Roedd ychydig o rwystrau i’w goresgyn ar hyd y ffordd, ond gyda chefnogaeth a natur benderfynol Desiree, fe wnaethon ni eu goresgyn. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, roedd ei chymorth yn werthfawr iawn o ran cael mynediad at waith a hebddo, byddwn i wedi rhoi’r gorau iddi.

“Gallaf bellach edrych ymlaen yn llawn cyffro at y cyfle hwn, gan wybod bod gennyf y gefnogaeth sydd ei hangen arnaf.”

Meddai Desiree De Mouilpied, Swyddog Cyflogaeth Cymunedol/Arbenigwr Anabledd:

“Mae wedi bod yn fraint helpu Tina ar ei thaith i gael gwaith. Mae ei chymeriad a’i natur benderfynol i wireddu ei breuddwydion a goresgyn rhwystrau cymhleth i gyflogaeth, wedi bod yn ysbrydoledig. Rydym i gyd yn dymuno pob lwc iddi yn ei swydd newydd.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn darparu’r seilwaith i gefnogi’r gwaith parhaus o ddarparu Cymunedau am Waith. Mae’r rhaglen yn gwella’r cymorth sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth i’r rheiny, sy’n aml â rhwystrau cymhleth, sydd bellaf o’r farchnad lafur i hyfforddiant a chyflogaeth yn y dyfodol gydag ymagwedd gyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydlynu cymorth cyflogaeth o’i Hwb a’i swyddfa yn Llanelli, yng Nghanol Tref Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth

“Rydym yn hynod falch dros Tina ac yn falch iawn o’i llwyddiant wrth gael swydd gyda BBC Cymru.

Byddwn i’n annog pobl yn ein sir sy’n edrych am waith i fanteisio ar y gefnogaeth y gall Cyngor Sir Gaerfyrddin ei rhoi i chi. Gall ein timau cymorth cyflogaeth eich helpu i nodi cyfleoedd hyfforddiant, darparu mentor personol i chi, gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu swydd, eich helpu i feithrin hyder a’ch helpu i ysgrifennu CV a chwblhau ceisiadau am swyddi.

Rydyn ni eisiau cefnogi mwy o bobl, fel Tina, i oresgyn rhwystrau i gael gwaith.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page