Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cartref i Flaenoriaethau Plismona yn cyhoeddi tystiolaeth ysgrifenedig gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn

 

Mae Ymchwiliad gan y Pwyllgor Materion Cartref i Flaenoriaethau Plismona y mis hwn (Medi), wedi cyhoeddi tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd iddynt gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn.

 

Yn 2022, cymeradwyodd y Pwyllgor Materion Cartref benodiad Prif Arolygydd Plismona newydd, sef cyn Brif Gwnstabl Glannau Mersi Andy Cooke. Ers hynny, mae Mr Cooke wedi gwneud newyddion dro ar ôl tro trwy alw ar heddluoedd i ganolbwyntio ar atal a datrys trosedd.

 

Lansiodd y Pwyllgor ei ymchwiliad i Flaenoriaethau Plismona ar 21 Gorffennaf 2022, ar adeg pan oedd hyder y cyhoedd yn yr heddlu ar ei isaf erioed. Galwodd y Pwyllgor am dystiolaeth gan y cyhoedd a’i gynrychiolwyr, gan ofyn:

 

Sut olwg sydd ar wasanaeth heddlu modern, sy’n addas ar gyfer y 2020au a thu hwnt,
Pa gydbwysedd y dylai heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ei daro rhwng canolbwyntio ar atal a datrys troseddau a chyflawni eu swyddogaethau eraill;
Pa rolau y dylai heddluoedd eu blaenoriaethu;
Beth y gellir ei wneud i wella plismona cymunedol a chynyddu ymddiriedaeth mewn swyddogion heddlu a heddluoedd, gan gynnwys ar gyllid a phwerau disgyblu pan fo ymddygiad swyddogion heddlu yn is na’r safonau gofynnol;
Yn benodol, yr hyn y mae’n rhaid i Heddlu Llundain ei wneud i gynyddu ymddiriedaeth o dan ei Gomisiynydd newydd; a,
Pa gamau y gellir eu cymryd i wella cyfraddau collfarnu cenedlaethol, gan gynnwys drwy gydberthnasau â chyrff eraill megis Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Yn ei ymateb i’r ymchwiliad, mae CHTh Dafydd Llywelyn yn ymateb yn uniongyrchol i themâu allweddol yr ymchwiliad gan argymell nifer o gamau y dylid eu hystyried, gan gynnwys;

 

Buddsoddu– cefnogi buddsoddiad mewn sgiliau, seilwaith, galluoedd dadansoddol, prosiectau datgarboneiddio a rhaglenni moderneiddio arloesol;
Partneriaethau – Gwell cydweithio rhwng Gwasanaethau Cyhoeddus fel bod ganddynt fwy o ryddid i gronni adnoddau a gweithio ar draws ffiniau a gosod y cyfeiriad sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion ein cymunedau;
Tryloywder ac atebolrwydd lleol – Mwy o dryloywder ac atebolrwydd lleol, yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol sydd wedi’u cyd-gynllunio’n ofalus gyda’n trigolion; a
Ffocws ar ‘Y Canlyniad Cywir’ – Nid euogfarn yn y Llys yw’r canlyniad cywir bob amser. Mae’n bosibl y bydd troseddwyr yn cael eu gwasanaethu’n well gyda gwarediad y tu allan i’r llys, gydag amodau i gymryd rhan mewn ymyriadau sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag anghenion troseddegol i ddargyfeirio ac atal troseddu yn y dyfodol.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn; “Mae’r heriau a wynebir gan blismona heddiw wedi dod yn fwyfwy cymhleth ac yn gofyn llawer i swyddogion a staff rheng flaen.

 

“Dadleuwyd dro ar ôl tro bod heddluoedd yn darparu gwasanaethau y tu hwnt i’w cylch cyfrifoldeb, gan gynnal gwasanaethau eraill gan eu bod hwythau hefyd yn teimlo’r straen o dan bwysau prinder ariannol a chyfoeth o ddisgwyliadau.

 

“Nid yw hyn i leihau gwerth cydweithio gyda, a chefnogaeth i, wasanaethau cyhoeddus eraill – yn hollol i’r gwrthwyneb. Rhaid inni wneud mwy gyda’n gilydd i wasanaethu ein cyhoedd. Dyma beth maen nhw’n ei ddisgwyl gennym ni. O dan y cythrwfl ariannol presennol, mae pob un ohonom yn bersonol yn gorfod ailfeddwl sut yr ydym yn torri ein brethyn.”

 

Yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu, mae CHTh Dafydd Llywelyn yn datgan mai un o’i weledigaethau yw darparu system blismona a chyfiawnder sy’n diwallu anghenion atal trosedd ein cymunedau, yn amddiffyn y cyhoedd ac yn meithrin gwytnwch. Mae ei dystiolaeth i’r ymchwiliad i Flaenoriaethau Plismona hefyd yn pwysleisio tryloywder ac atebolrwydd lleol.

 

Dwedodd; “Mae tryloywder ac atebolrwydd lleol o’r pwys mwyaf wrth gefnogi trafodaethau gwybodus gyda’n cymunedau am y plismona y maent ei eisiau, ei angen ac y gallant ei ddisgwyl.

 

“Nid yw’r datganiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch yr angen i blismona fynd “yn ôl at y pethau sylfaenol” ac ymweld â phob dioddefwr o fathau penodol o droseddau yn gwneud dim i gefnogi’r gwasanaeth wrth reoli’r disgwyliadau hynny.

 

“Rwy’n gwbl gefnogol i fwy o dryloywder ac atebolrwydd lleol, ar yr amod ei fod yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol sydd wedi’u cyd-gynllunio’n ofalus gyda’n trigolion.

 

“Nid yw annog tryloywder ac atebolrwydd perfformiad lleol yn erbyn targedau mympwyol cenedlaethol yn cefnogi ymddiriedaeth a hyder lleol, ond yn drysu ac yn ei danseilio.”

 

Gellir darllen tystiolaeth y CHTh i’r ymchwiliad yn llawn ar wefan y Pwyllgor Materion Cartref yma.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page