Carmarthenshire News Online

Your Free, Independent News Service

Cymraeg

Cig oen o Sir Gar ar ei ffordd i America

Caiff cig oen o Gymru ei allforio i’r Unol Daleithiau heddiw, am y tro cyntaf mewn dros 25 mlynedd.

Mae’r llwyth wedi ei brosesu yn Dunbia, Llanybydder.

Mae Llywodraeth Cymru law yn llaw â Hybu Cig Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cig oen o Gymru’n cael croesi’r môr i UDA unwaith eto.

Mae mewnforion cig oen o Brydain eu gwahardd yn America yn dilyn achos o Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE).

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae Cymru’n cynhyrchu cig oen sydd gyda’r gorau yn y byd, ac mae’n newyddion da iawn fod pobl America bellach yn cael ei flasu.

Mae hwn yn hwb mawr i’r diwydiant. Mae cael gwerthu i farchnadoedd UDA wedi bod yn destun ymdrech hir i ni, a chodwyd y mater gan Lywodraeth Cymru a Hybu Cig Cymru gydag awdurdodau America dros ddegawd yn ôl. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio’n galed i wireddu’r uchelgais hwn.”

Colin Smith / Welsh Lamb at Cwm Ivy

Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

Elkanah graduated from Aberystwyth University in 2023. He has worked with Carmarthenshire News Online for nearly five years, making him one of our most reliable and trusted journalists on the team. Elkanah is passionate about news-writing and is a strong advocate for freedom of the press and non-aligned, unbiased, factually correct news coverage.

You cannot copy any content of this page