Gwledd y Gaeaf ar Glannau Abertawe’n dychwelyd i Barc yr Amgueddfa Tachwedd 8fed

BYDD atyniad mwyaf y gaeaf Abertawe’n dychwelyd o 8 Tachwedd 2022 tan 8 Ionawr 2023

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto, mae’r tymheredd yn gostwng, mae’r nosweithiau’n tywyllu… ac mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn ôl ar gyfer 2022, wrth i Barc yr Amgueddfa gael ei drawsnewid unwaith eto’n wlad hud yr ŵyl.

Yn newydd sbon ar gyfer 2022, gall myfyrwyr a theuluoedd brynu bandiau arddwrn ar gyfer y safle sy’n cynnig arbedion sylweddol ar eu profiad o Wledd y Gaeaf ar y Glannau. Mae’r pecyn i fyfyrwyr yn cynnwys sglefrio iâ, pryd o fwyd i oedolyn a dewis o gwrw, gwin bach, neu wydriad bach o win y gaeaf, gyda chyfanswm o £6 yn cael ei arbed. Mae’r pecyn i deuluoedd yn cynnig arbediad o £18 i ddau oedolyn a dau o blant, neu un oedolyn a thri o blant, ar sglefrio iâ i bedwar, 1 neu 2 bryd i oedolion, 1 neu ddwy ddiod i oedolion, a dau neu dri o brydau plant, gyda diodydd wedi’u cynnwys yn y pris.

Bydd y Pentref Alpaidd poblogaidd yn dychwelyd eleni gyda’i ardal eistedd estynedig i ymwelwyr fwynhau bwyd a diod Nadoligaidd, cymdeithasu a mwynhau’r adloniant byw.

Gall sglefrwyr iâ brofi hud y gaeaf ar iâ wrth iddynt sglefrio ar draws y llyn dan do ac ar hyd y llwybr iâ sy’n dolennu drwy goed Parc yr Amgueddfa.

Meddai Norman Sayers, trefnydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe,

“Rydym yn falch iawn o fod yn ôl yn Abertawe ar gyfer 2022, ac rydym yn arbennig o gyffrous am ein bandiau arddwrn newydd sbon sy’n cynnig arbedion i ymwelwyr yn ystod yr argyfwng costau byw hwn.”

“Gyda’n cynllun gwell ac estynedig o 2021 yn dychwelyd eto eleni, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl gyda digonedd o hwyl yr ŵyl i bawb.”

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies:

“Rydym yn cynllunio Nadolig cyffrous arall ar gyfer pobl Abertawe, gan gynnwys gorymdaith y Nadolig am ddim yn nghanol y ddinas – cyhoeddir y manylion llawn cyn bo hir.

Mae’n wych croesawu Norman Sayers yn ôl i gynnal Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe unwaith eto eleni ac rydym wrth ein boddau ei fod wedi cyflwyno cynigion newydd sy’n ystyriol o’r argyfwng costau byw.”

Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn agor o 8 Tachwedd 2022 ac mae tocynnau ar gyfer y llyn iâ ar werth nawr: https://swanseawaterfrontwinterland.cymru/cy/prynwch-eich-tocynnau-nawr/

Bydd sesiynau sglefrio hygyrch yn ystod awr gyntaf y sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth.

Yn y gorffennol, mae lleoedd ar gyfer sesiynau sglefrio wedi gwerthu allan yn gyflym, yn enwedig y slotiau dros y penwythnos. Rydym yn argymell eich bod yn prynu’ch tocynnau sglefrio ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi. Mae mynediad cyffredinol i Barc yr Amgueddfa am ddim i ymwelwyr ei archwilio dros y gaeaf.

 

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: