Ymgyrch i wella ymddygiad disgyblion ysgolion uwchradd Sir Gâr

GWELIR ymgyrch ar waith ar hyn o bryd yn Sir Gâr i wella ymddygiad disgyblion ysgolion uwchradd y sir.

Mae’r ymdrech yn un ar y cyd rhwng y Cyngor a C.A.S.H – Cymdeithas
Penaethiaid Uwchradd y Sir. [1]

Ar hyd a lled Cymru, mae niferoedd o athrawon yn tystio i enghreifftiau
o’r un dirywiad yn ymddygiad rhai disgyblion ers dychwelyd i addysg
ffurfiol wedi cyfnodau clo’r pandemig. Mae’r ymddygiad yn gallu bod ar
ffurf defnyddio iaith sarhaus gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon; bod yn
anystywallt mewn gwersi; anweddu (vaping) mewn toiledau adeg gwersi ac
amryw o enghreifftiau eraill.

Mynychodd disgyblion ac athrawon POB UN o ysgolion y Sir sesiwn rhannu
profiad yn Neuadd y Sir ym mis Gorffennaf. Cafodd trawstoriad o sylwadau
eu recordio a’u defnyddio i greu fideo sy’n ran o’r ymgyrch. Bydd y
fideo’n cael ei ddangos ymhob un o Ysgolion Uwchradd Sir Gâr ym mis
Medi ac yn cael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd gwybodaeth
ar bosteri a baneri’r ymgyrch yn cyfeirio disgyblion at ffynonellau lle
gallan nhw gael cyngor pellach am bwysigrwydd gwella ymddygiad.

Dyma rhai o’r sylwadau mae disgyblion Sir Gâr yn eu lleisio mewn
ymgyrch sy’n anelu at wella ymddygiad yn Ysgolion Uwchradd yr awdurdod.

“Mae ymddygiad gwael wedi mynd yn arferol.”

“Mae grwp bach o ddisgyblion yn gallu effeithio ar ysgol gyfan.”

“Ma’ rhai pobol yn ymladd i gael sylw.”

Ar rhan Prif Athrawon Ysgolion Sir Gâr, meddai James Durbridge: “Fel
athrawon, ry’n ni’n deall bod rhesymau cymhleth weithiau wrth wraidd
cam-ymddwyn disgyblion ac, heb os, ry’n ni am gefnogi’r disgyblion
rheini.

“Ond fel ma’ teitl fideo’r ymgyrch yn esbonio – _Mae ein hymddygiad ni’n
effeithio ar bawb a phopeth._ Gall athro ddim addysgu a gall disgybl
ddim dysgu mewn dosbarth pan fod lleiafrif yn ymddwyn yn sarhaus a heb
barch.

“Mae ymddygiad ein disgyblion heddiw yn dylanwadu ar eu yfory.”

Wrth nodi fod yr ymgyrch yn gyfle i wasgu’r botwm _re-set_ ar ymddygiad
a sefydlu gwell arferion, dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod
Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:

“Ein nod ni yn Sir Gâr yw creu pobol ifanc sydd, ar ôl cael eu
haddysgu yma, yn creu bywyd yma gan gyfrannu at ein cymuned.

“Mae cynnig yr arweiniad gorau posib iddyn nhw am sut i ymddwyn mewn
modd sy’n rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw lwyddo mewn bywyd, yn ddyletswydd
arnom ni fel awdurdod.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page