Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd y cyhoedd i ddigwyddiad ar-lein sy’n darparu diweddariad ar gynlluniau ailddatblygu Rhan 2 gwasanaethau menywod a phlant yn Ysbyty Glangwili.
Mae BIP Hywel Dda yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb ar ei sianel Facebook, ddydd Mawrth 2 Mai, 6pm-7:30pm, ynglŷn â chynlluniau ar gyfer yr ysbyty yng Nghaerfyrddin.
Y Prif Weithredwr Steve Moore sy’n cynnal y sesiwn, gyda phresenoldeb staff clinigol, rheoli ac ystadau. Bydd y noson yn cael ei neulltio i drafod a rhannu cynlluniau ar gyfer ailddatblygu wardiau Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU), y ward Esgor a theatrau mamolaeth.
Dyma’r rhan ddiweddaraf o ymgysylltu ar y prosiect Rhan Dau, sydd hyd yn hyn wedi cynnwys llawer iawn o fewnbwn gan grwpiau staff, yn ogystal â defnydd o fyrddau graffiti ar wardiau i gael barn cleifion a theuluoedd.
Cynhaliwyd digwyddiadau eraill, yn benodol er mwyn casglu barn ar gynlluniau Rhan 2 Ysbyty Glangwili, gan gynnwys cyfarfodydd gyda grwpiau sydd â diddordeb arbennig megis grwpiau mamau a phlant/babanod ym mhob sir, grwpiau cefnogi profedigaeth a grwpiau nam ar y synhwyrau ac anableddau.
Mae sylwadau ar gynlluniau llety hyd yn hyn ar gael i’w gweld ar y wefan (gweler y linc isod).
Dywedodd Steve Moore: “Gobeithio y gallwch ymuno â ni i rannu eich barn, yn enwedig os ydych yn rhywun sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar. Byddwn yn rhannu’r cynlluniau drafft a gyda phawb ac rydym wir eisiau clywed eich barn – A yw’r cynlluniau’n iawn neu a ddylwn ystyried pethau eraill?
Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/86625
Dilynwch ni ar Facebook:
www.facebook.com\BwrddIechydHywelDda
