Dewis eich gwasanaethau iechyd y Pasg hwn

Mae meddygon a nyrsys yn annog pobl leol i ychwanegu iechyd at eu rhestr ar gyfer y Pasg.

Mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn atgoffa pobl o’r angen i feddwl yn gynnar am bresgripsiynau amlroddadwy, ac oriau agor meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol wrth i ni nesáu at Wyliau’r Pasg. Gall wneud dewis doeth pan fyddwch angen cyngor neu gymorth iechyd – drwy ddefnyddio Galw Iechyd Cymru neu ymweld â’ch fferyllfa – gael effaith gadarnhaol iawn ar Adrannau Achosion Brys sy’n brysur yn ystod cyfnodau gwyliau.

Dywedodd Mr Jeremy Williams, Ymgynghorwr Achosion Brys ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu: “Y ffordd orau y gall y cyhoedd helpu ein staff rheng flaen, a sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn cael eu gweld yn gyflym, yw defnyddio gwasanaethau iechyd eraill a chadw ein Adrannau Achosion Brys ar gyfer sefyllfaoedd difrifol neu sy’n bygwth bywyd. Yn y pen draw mae hyn yn ein helpu i achub bywydau.”

Gall canllawiau Dewis Doeth helpu teuluoedd pan nad ydynt yn sicr o’r gwasanaeth iechyd gorau i ddiwallu eu hanghenion. Gallwch gael cyngor a manylion ar wasanaethau lleol o’r wefan www.bihyweldda.wales.nhs.uk/dewisdoeth neu trwy lawrlwytho ap Dewis Doeth ar eich ffôn symudol, sy’n defnyddio GPS i ddod o hyd i’ch gwasanaeth agosaf.

Mae Meddygon teulu yn cynghori eich bod yn cyflwyno eich presgripsiynau mlroddadwy cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw oedi.

Dywedodd Dr Alan Williams, Meddyg Teulu ym Meddygfa Ty Elli yn Llanelli,: “Mae gwasanaethau brys ar gael drwy gydol Gwyl Banc y Pasg, ond gofynnwn i chi helpu’r rhai sydd angen gofal brys trwy wneud yn siwr bod gennych eich meddyginiaeth arferol mewn stoc a’ch bod ond yn mynychu Adrannau Achosion Brys neu’n defnyddio Gwasanaeth Tu Allan Oriau Meddygon Teulu os na allwch chi aros tan ar ôl y gwyliau.”

Ychwanegodd Dr Sion James, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tregaron ac Arweinydd Meddygon Teulu Gogledd Ceredigion: “Mae’n bwysig bod yn barod a threfnus gyda’ch meddyginiaethau bob amser ond yn enwedig wrth agosáu at Wyl y Banc. Mae llawer o wasanaethau ar gael os oes gennych broblem frys pan fydd eich meddygfa ar gau, gan gynnwys gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddyg Teulu yn ystod y dydd a’r nôs.”

Pan fydd eich meddyg teulu arferol ar gau yn ystod y nos neu ar y penwythnos, os oes angen gwasanaethau meddyg teulu arnoch, gallwch ffonio rif ffôn arferol eich Meddygfa a chael eich trosglwyddo i’r gwasanaeth y Tu Allan i Oriau. Ar gyfer gofal deintyddol brys, cysylltwch â’ch deintydd arferol neu Linell Gymorth Ddeintyddol Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Ar gyfer Gofal Cymdeithasol brys ffoniwch rif Allan o Oriau y Gwasanaethau Cymdeithasol: Sir Gaerfyrddin – 01558 824283, Ceredigion – 0845 6015392, Sir Benfro – 08708 509508. Os oes rhywun mewn trallod iechyd meddwl, defnyddio Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL ar 0800 132 737, neu anfonwch Neges Destun ‘help’ i 81066 neu ewch i www.callhelpline.org.uk

Yn aml, gall fferyllydd cymunedol drin mân anhwylderau ac afiechydon, a hynny heb apwyntiad na gorfod aros am amser hir. I gael rhestr o fferyllfeydd yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd ar agor yn ystod Gwyliau Banc y Pasg, ewch i’r wefan http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/56476

Gallech hefyd edrych ar eich cwpwrdd moddion o flaen llaw i wneud yn siwr bod gennych gyflenwad da o feddyginiaethau dros y cownter sy’n ddefnyddiol i reoli cyflyrau yn y cartref. Dyma rai eitemau y dylech gadw mewn cwpwrdd sydd allan o gyrraedd plant:

• Meddyginiaeth lleddfu poen e.e. paracetamol

• Meddyginiaeth gwrth-ddolur rhydd

• Cymysgedd ail-hydradu

• Meddyginiaeth diffyg traul

• Plasteri

• Thermomedr

Mewn argyfwng neu sefyllfa sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans. Os oes angen triniaeth na all aros ond nid yw’n achos brys ac nad ydych yn gwybod ble i fynd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page