Yn dilyn proses asesu drwyadl yn ddiweddar, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflawni achrediad aur a phlatinwm ar y Safon Iechyd Gorfforaethol.
Y Safon Iechyd Gorfforaethol yw’r nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle, gan gydnabod arferion a gweithleoedd da sy’n targedu materion salwch allweddol y gellir eu hatal.
Gwnaeth arfer da mewn mentrau iechyd a llesiant, ymgysylltu â gweithwyr, yn ogystal ag uwch arweinwyr helpu’r Bwrdd Iechyd Prifysgol i gipio’r wobr bwysig hon. Mae’r aseswyr wedi tynnu sylw at y “gwahaniaeth gwych a mesuradwy mewn gwelliant” mewn meysydd fel y gwerthoedd sefydliadol, cyfathrebu a’r ymdeimlad cyffredinol o lesiant ymysg staff, fel rhan o’u hasesiad.
Ar gyfer yr ail-ddilysu Platinwm, nodwyd ymgysylltu â’r gymuned, gwaith adeiladu cyfalaf, cyfleusterau, caffael, trafnidiaeth a mentrau cyflogaeth a sgiliau, i gyd fel meysydd o arfer eithriadol o dda.
Mae Grŵp Llywio ‘Iechyd a Llesiant yn y Gwaith’ yn darparu arweiniad a chefnogaeth i’r Bwrdd Iechyd Prifysgol wrth hwyluso iechyd a llesiant staff fel rhan annatod o’i amcanion corfforaethol.
Meddai Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol: “Rydym yn falch iawn i fod wedi ennill yr achrediad aur a phlatinwm sy’n dangos ein bod wedi cynnal y lefel hon o safon ers ein asesiad diwethaf yn 2013. Rydym yn parhau i adeiladu ar ddatblygiadau iechyd a llesiant ar gyfer ein staff a’n hymrwymiad i’r agenda iechyd corfforaethol.”
Meddai Bernardine Rees, OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hyn yn dangos yn glir y cynnydd mawr yr ydym yn ei wneud mewn perthynas ag ystod eang o ddatblygiadau mewn ymgysylltu â chyflogeion, iechyd a diogelwch, monitro a gwerthuso, ac yn arbennig mewn perthynas ag ysmygu, iechyd meddwl a llesiant, anhwylderau cyhyrysgerbydol, camddefnyddio alcohol a sylweddau, maethiad a gweithgarwch corfforol.
“Hoffwn dalu teyrnged i’n holl staff sy’n ymwneud â’n tywys ni drwy’r broses asesu a diolch am gyfraniad pawb i sicrhau bod iechyd a llesiant ein staff yn parhau i fod o’r pwys mwyaf ar draws Hywel Dda.”
