Ffermwr Safle Arddangos Cyswllt Ffermio yn derbyn teitl Ffermwr Bîff y Flwyddyn yng ngwobrau Blynyddol y Farmers Weekly

Mae meincnodi a chadw llygad barcud ar ffigyrau wedi cynorthwyo Paul a Dwynwen Williams, Cae Haidd Ucha, ffermwyr arddangos Cyswllt Ffermio, i gyrraedd y nod yng ngwobrau blynyddol y Farmers Weekly yr wythnos diwethaf.

Ers cymryd yr awenau ar fferm Cae Haidd Ucha, mae Paul a Dwynwen Williams wedi ehangu’r fuches bîff, wedi cynyddu nifer y defaid ac wedi sefydlu menter magu lloi llaeth newydd. Mae ganddynt bellach 42 o wartheg sugno, 600 o famogiaid ac maent yn magu lloi llaeth croes o fuchesi sydd â statws uchel o ran iechyd.

Cafodd y beirniaid eu plesio gan agwedd rhagweithiol ac arloesol Paul a Dwynwen, eu gwybodaeth am y farchnad a’u cyfraniad angerddol i’r diwydiant amaeth ehangach. Dywedodd Hayley Parrott un o’r beirniaid;

“Mae Paul a Dwynwen wedi cyflawni gymaint mewn cyn lleied o amser ac ochr yn ochr â phopeth arall maen nhw’n ei wneud i’r gymuned a’r diwydiant amaeth.

Mae eu sylw at fanylder o ran ffigyrau’n un o’r ffactorau sy’n gwneud eu system mor effeithlon. Nid yw dod â buches sy’n lloia gydol y flwyddyn i mewn i gyfnod lloia mewn bloc ar yr un pryd â lleihau’r mynegai lloia o 420 i 370 a gwella cyfraddau cenhedlu yn beth hawdd i’w wneud.

Maen nhw’n adnabod eu marchnad darged ac yn parhau i asesu ac addasu eu system er mwyn ei gyrraedd, sef un o’r rhesymau eu bod wedi codi eu helw fesul buwch gymaint o fewn ychydig flynyddoedd a bod yn nhraean uchaf perfformiad ariannol ar gyfer cynhyrchiant gwartheg sugno.

Roedd hi’n bleser ymweld â fferm Cae Haidd. Does dim amheuaeth y bydd Paul a Dwynwen yn llwyddiannus gyda’r fferm ac unrhyw fentrau arallgyfeirio a wneir ganddynt.

Dywedodd Dewi Hughes, Rheolwr Datblygu Technegol Cyswllt Ffermio; “Rydym yn falch iawn dros Paul a’r teulu am lwyddo ennill y teitl. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i un o’n Safleoedd Arddangos ennill teitl Ffermwr Bîff y Flwyddyn, wedi llwyddiant Richard Tudor a’r teulu y llynedd. Mae’n fraint cael gweithio gyda ffermwyr blaengar sy’n awyddus i wella effeithlonrwydd ac arwain eu busnesau yn eu blaen.”

Dywedodd Paul Williams – “Fel teulu, rydym yn falch iawn o ennill y teitl hwn ac mae’n bendant wedi bod yn brofiad bythgofiadwy. I ni, ein prif nod yw ennill bywoliaeth, ond rydym hefyd yn gwneud pob ymdrech i wneud y gorau o’r fferm a’r busnes.”

Mae Paul a Dwynwen Williams wedi bod yn gweithio gyda rhwydwaith Arddangos Cyswllt Ffermio i gynyddu allbwn y fenter gwartheg sugno ymhellach trwy ddefnyddio geneteg a thechnoleg uwchraddol i werthu a datblygu’r fenter defaid ac i wella proffidioldeb y fferm fesul hectar heb gynyddu gofynion llafur.

“Un o’r elfennau sydd wedi ein cynorthwyo i wella’r busnes yw’r ffaith ein bod wedi bod yn meincnodi ein mentrau gwartheg sugno a defaid. Hefyd, gan ein bod yn rhan o rwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, rydym wedi gallu manteisio ar yr arbenigedd sydd ar gael fel rhan o’r rhaglen.

Dywedodd Gethin Davies, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio “Mae’n braf gweld pobl sy’n gweithio mor galed yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol. Mae gan Paul a Dwynwen agwedd ardderchog tuag at waith ac mae’n bleser gweithio â nhw”.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r prosiectau arloesol sy’n cael eu cynnal ar fferm Cae Haidd Ucha neu rwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/rhwydwaith-arddangos


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page