Mwy o blant ledled Cymru dechrau derbyn prydau ysgol am ddim

WRTH i blant fynd yn ôl i’r ysgol, mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi croesawu’r ffaith bod rhoi prydau ysgol am ddim yn mynd i gael ei ehangu i blant cynradd yng Nghymru.

Mae dosbarthiadau cyfan o blant cynradd ledled Cymru yn mwynhau prydau ysgol am ddim gyda’i gilydd am y tro cyntaf o ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

Wrth i’r Prif Weinidog a Sian Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, ymweld ag ysgol gynradd ddydd Mercher (Medi 7), byddant yn cyhoeddi bod prydau ysgol am ddim yn cael eu hehangu i fwy na 6,000 o blant oedran meithrin mewn ysgolion.

Bydd disgyblion meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir am o leiaf ddwy sesiwn lawn unrhyw ddiwrnod o’r wythnos yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.

Bydd £35m o gyllid cyfalaf newydd yn cefnogi’r cynllun. Darperir y cyllid i awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau arlwyo ysgolion, gan gynnwys prynu cyfarpar, uwchraddio cyfleusterau ceginau a diweddaru systemau digidol.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at £25m o gyllid cyfalaf a gafodd ei roi i awdurdodau lleol yn 2021-22. Mae £200m o gyllid refeniw hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer y ddarpariaeth bob dydd dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Ddylai yr un plentyn fynd heb fwyd. Mae teuluoedd ledled Cymru o dan bwysau aruthrol o achos yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w cefnogi. Mae ehangu prydau am ddim i bob ysgol gynradd yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.

Mae wir yn bleser gweld sut mae ein hysgolion wedi croesawu hyn, a pha mor gyflym y maen nhw a’n gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim.

Rydyn ni’n gwybod bod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a dyna pam mai ein dysgwyr ieuengaf fydd y cyntaf i elwa.”

Meddai arweinydd Plaid Cymru:

“Wrth inni wynebu argyfwng costau byw, ‘dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, sicrhau dechrau cyfartal iddyn nhw mewn bywyd a helpu teuluoedd i wneud i’r gyllideb wythnosol fynd ymhellach.

Drwy ein Cytundeb Cydweithio, rydyn ni’n cynnig cymorth y mae ei angen yn fawr ar deuluoedd, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn drwy fuddsoddi yn ein hysgolion i ddarparu’r prydau hyn.

Dros y tair blynedd nesaf, fe fyddwn ni’n cyflwyno prydau ysgol am ddim ar draws holl grwpiau blwyddyn ein hysgolion cynradd, fel na fydd angen i un plentyn fynd heb fwyd tra byddan nhw yn yr ysgol. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Mae ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yn ymrwymiad allweddol yn y Cytundeb Cydweithio tair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd yn ymyriad sy’n trawsnewid y sefyllfa o ran tlodi plant a’r rheini sy’n mynd heb fwyd, yn ogystal â chefnogi cyrhaeddiad addysgol, maeth plant a chynhyrchu a dosbarthu bwyd yn lleol, gan sicrhau budd i economïau lleol.

Bydd y flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar feithrin capasiti ysgolion, a’r nod yw sicrhau, erbyn dechrau tymor yr haf 2023, y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion, o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 2, yn cael prydau ysgol am ddim. Bydd y rhan fwyaf o blant dosbarthiadau derbyn yn cael prydau ysgol am ddim o’r wythnos hon.

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page