Cleifion Hywel Dda yw’r cyntaf yng Nghymru i gael prawf gwaed newydd ar gyfer heintiau bacteriol

Cleifion mewn unedau gofal dwys yng Nghaerfyrddin a Llanelli yw’r cleifion cyntaf yng Nghymru i gael prawf gwaed newydd a archwilir mewn labordy, sy’n helpu meddygon i reoli triniaeth wrthfiotig mewn achosion o heintiau bacterol difrifol a sepsis.

Mae Dr Igor Otahal, yr Anesthetydd Ymgynghorol sy’n arwain y prosiect, wedi bod yn cydweithio â Dr Peter Havalda, Anesthetydd Ymgynghorol a Dr Sian Hancock, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol ar brofion procalcitonin (PCT).

Mae’r prawf wedi’i dreialu yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty’r Tywysog Philip, a dim ond mewnychydig o leoliadau eraill y mae ar gael ar hyn o bryd yn y DU. Hywel Dda oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig y prawf i gleifion mewn unedau gofal dwys, a allai fod yn dioddef o sepsis, ac mae wrthi’n adolygu’r posibilrwydd o gyflwyno’r prawf mewn unedau gofal dwys eraill.

Mae’r prawf PCT yn gweithio drwy ddarganfod yn gyflym a oes gan glaf haint bacterol y mae angen ei drin â gwrthfiotigau. Drwy ddefnyddio’r prawf PCT i fonitro hynt yr haint, mae modd osgoi rhoi gwrthfiotigau i gleifion am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol.

O’r blaen, gallai gwrthfiotigau gwerthfawr fod wedi’u rhoi i gleifion a oedd â symptomau tebyg i heintiau bacterol, e.e. heintiau firysol y frest a methiant acíwt y galon, heb gadarnhad bod y cleifion hynny’n dioddef o haint bacterol a sepsis.

Mae’r prawf PCT, a gyflawnir ar samplau gwaed arferol, yn ei gwneud yn bosibl i wrthfiotigau gael eu teilwra ar gyfer cleifion unigol, yn hytrach na’u bod yn cael eu rhagnodi dros nifer benodol o ddiwrnodau. Yn ogystal, mae’r prawf PCT yn fwy cywir na ‘bioarwyddion’ eraill megis cyfrifiadau celloedd gwyn y gwaed, nad ydynt yn adlewyrchu tueddiadau o ran haint yn ddigonol yn gyffredinol.

Dywedodd Dr Otahal fod defnyddio’r prawf PCT mewn unedau gofal dwys yn golygu bod gwrthfiotigau’n cael eu gwarchod yn well o lawer, bod llai o gleifion yn cael eu trin yn amhriodol â gwrthfiotigau, a bod cyrsiau byrrach o wrthfiotigau’n cael eu rhagnodi’n gyffredinol.

Ychwanegodd: “Rydym yn dechrau llai o driniaethau gwrthfiotig diangen ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn cael eu hachosi gan facteria; mae hynny’n arwain at ganlyniadau ariannol ac yn fodd hefyd i arafu’r graddau y mae bacteria yn datblygu’r gallu i wrthsefyll gwrthfiotigau gwerthfawr.

“Ceir perygl cynyddol y bydd bacteria y mae gwrthfiotigau amhriodol yn ymosod arnynt yn datblygu’r gallu i wrthsefyll triniaeth wrthfiotig, ac na fydd gennym unrhyw driniaeth wrthfiotig effeithiol ar gyfer cleifion sy’n dioddef o heintiau difrifol a sepsis. Mae’r duedd honno wedi dechrau’n barod – rydym wedi’i gweld mewn ymarfer clinigol. Mae’r prawf PCT o gymorth i warchod gwrthfiotigau, ac mae hynny’n helpu i arafu’r graddau y mae bacteria yn datblygu’r gallu i wrthsefyll triniaeth wrthfiotig.

“Dyma ffaith gadarnhaol arall: pan fyddwn yn dechrau’r driniaeth wrthfiotig, gallwn weld lefelau PCT yn adlewyrchu’r dewis cywir o wrthfiotigau. Byddant yn cyrraedd eu hanterth i ddechrau, ac yna’n disgyn pan fydd yr haint yn cael ei reoli â’r gwrthfiotigau priodol.

“Mae lefelau PCT yn adlewyrchu difrifoldeb yr haint hefyd, a gallant ychwanegu at y broses o asesu canlyniad posibl. Y peth gwych olaf, pan fydd lefelau PCT yn disgyn yn sylweddol, yw y gallwn roi’r gorau i ddefnyddio gwrthfiotigau’n gynharach o lawer o gymharu â’r drefn arferol flaenorol, heb y risg o fethu â thrin yr haint yn llwyr.

“Mae’r prawf PCT wedi bod yn ychwanegiad derbyniol iawn at ein hystod o driniaethau. Mae’n gweithio orau pan gaiff ei ddadansoddi mewn cyd-destun clinigol. Ar ei ben ei hun, ni all y prawf PCT ddisodli profion eraill na phrofiad clinigol.”

“Mae’r prawf PCT wedi’i gyfyngu i gleifion mewn unedau gofal dwys ar hyn o bryd, ond mae natur ymarferol a defnyddiol y prawf yn dod yn fwyfwy amlwg a gallai hynny beri iddo gael ei ddefnyddio’n eang.

“Yn y dyfodol hoffem rannu ein profiad â meddygon ymgynghorol o feysydd arbenigol eraill, a allai ddefnyddio ein profiad er budd eu cleifion nhw ar ddechrau’r broses o ddiagnosio a thrin cyflyrau.”

Meddai Cyfarwyddwr Meddygol Hywel Dda, Dr Phil Kloer: “Mae’r prawf procalcitonin yn agwedd newydd a chyffrous iawn ar ymchwil, oherwydd mae’n ein galluogi i astudio effeithiolrwydd triniaethau gwrthfiotig yn wirioneddol, mewn modd nad oedd yn bosibl i ni o’r blaen, ac rydym yn ddiolchgar i Dr Otahal, Dr Havalda a Dr Hancock am eu gwaith ar y cyd ar y prosiect hwn.

“O gofio peryglon sepsis yn arbennig, sy’n hysbys i bawb, rydym yn wynebu dyfodol yn gynyddol lle bydd angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd a dyfeisgar o dargedu cyflyrau er mwyn galluogi ein cleifion i wella cyn gynted ag sy’n bosibl, gan wneud y defnydd gorau o’n hamser a’n hadnoddau.”

We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: