£10m i adfer Hen Goleg hanesyddol Aberystwyth

Cyhoeddodd y Loteri Cenedlaethol eu bod am roi £10.5m i adfer Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.

Dyma ran o gynllun £22m, fydd yn troi’r adeilad rhestredig Gradd 1 yn ganolfan dreftadaeth, addysg a menter.

Bydd yr adeilad Gothig yn cael ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau newydd, yn ogystal â safle ar gyfer caffi ac ystafelloedd cymunedol.

Dywedodd Simon Thomas AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin:

“Fel cyn-fyfyriwr ac un sy’n byw yng yng Ngheredigion, rwyf wrth fy modd yn gweld adfywiad Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth.

Roedd yr adeilad yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer darlithoedd pan oeddwn yn fyfyriwr yno yn yr 1980au. Wrth gerdded trwy ddrysau yr Hen Goleg, roedd ymdeimlad cryf o hanes ac roedd tawelwch y llyfrgell yn ei gwneud yn berffaith i astudio ynddi.”

“Cwrddais i ac Elin Jones, AC Ceredigion, ag Is-Ganghellor y Brifysgol, Elizabeth Treasure, yn gynharach yn y mis. Roedd yn gyffrous clywed am weledigaeth Elizabeth Treasure o Brifysgol breswyl, ddwyieithog â’i gwreiddiau yn y dref. Mae adfywiad yr Hen Goleg yn rhan o’r weledigaeth hon.”

Dylai’r gwaith fod wedi ei gwblhau mewn pryd i ddathlu 150 mlwyddiant y Brifysgol, yn 2022.

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: