Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau

Cyrhaeddodd Cyngor Sir Gâr restr fer yng ngwobrau Dathlu ‘Mwy na Geiriau 2017’ am y gwasanaeth Gymraeg a ddarperir gan Dewis Sir Gâr.

Mae’r gwasanaeth ar gyfer defnyddwyr bregus yn cael ei ddarparu yn Gymraeg heb fod y defnyddiwr yn gorfod gofyn amdano.

Mae’r gwobrau cenedlaethol yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol a’r gwaith eithriadol sy’n cael ei gyflawni gan unigolion a thimau.

Rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i Linell Ofal a Dewis Sir Gâr am ddarparu’r cynnig rhagweithiol o ran yr iaith. Dewis Sir Gâr yw’r prif bwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth ar faterion yn ymwneud â gofal cymdeithasol ar draws y sir.

Cyngor Sir Gâr yw’r unig ganolfan monitro larwm sy’n gweithio ochor yn ochor gyda gweithwyr proffesiynol iechyd o sefydliadau megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos gan ddarparu dewis iaith gan staff cymwysedig. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi chwe awdurdod lleol arall yng Nghymru.

Mae’r staff yn canolbwyntio ar y cynnig rhagweithiol sy’n galluogi unrhyw ddefnyddiwr o’r gwasanaeth sy’n ffonio’r llinell i dderbyn gwasanaeth a thrafod eu manylion personol yn eu hiaith o’u dewis heb iddynt orfod gofyn amdano.

Gyda chanran uchel o boblogaeth Sir Gâr yn siarad Cymraeg, mae’r gwasanaeth wedi sicrhau bod rhwng 65 i 85% o’r staff ar unrhyw ddyletswydd yn gallu siarad Cymraeg.

Cewch mwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma

Dywedodd yr aelod o’r bwrdd dros ofal cymdeithasol ac iechyd y Cynghorydd Jane Tremlett: “Rwyf wrth fy modd bod Llinell Ofal Cyngor Sir Caerfyrddin a Dewis Sir Gâr wedi cael eu canmol am eu gwaith arloesol. Maen nhw’n galluogi defnyddwyr eu gwasanaethau i gael cymorth a chyngor trwy gyfrwng y Gymraeg heb orfod gofyn.”


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page