Teuluoedd Sir Gâr yn gallu trefnu cael casgliadau ailgylchu cewynnau

BELLACH gall teuluoedd yn Sir Gâr drefnu i gael cewynnau plant wedi’u casglu bob pythefnos am ddim.

Mae Cyngor Sir Gâr yn lansio gwasanaeth casglu newydd fel y gall aelwydydd ailgylchu eu cewynnau yn hytrach na’u rhoi gyda’u gwastraff bagiau du.

Mae’r cyngor eisoes yn darparu’r bagiau porffor ar gyfer casglu gwastraff hylendid, a bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ymestyn i gynnwys cewynnau plant o 27 Mehefin.

Gall rhieni yn awr drefnu ar wefan y cyngor eu bod yn cael y casgliad cewynnau newydd, ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu a chlicio ar hylendid a gwastraff cewynnau. Pan fyddant wedi cofrestru bydd aelwydydd yn cael bagiau porffor, diwrnod casglu a chalendr.

Bydd y gwasanaeth casglu yn cymryd lle’r gwasanaeth eithrio bagiau du ar gyfer aelwydydd sydd â phlant mewn cewynnau, lle cânt lwfans bagiau du ychwanegol.

Nid yn unig y bydd yn atal y math hwn o wastraff rhag mynd i safle tirlenwi, ond bydd hefyd yn helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu’r cyngor.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “Yn fy rôl newydd fel aelod cabinet dros wastraff, rwy’n falch iawn mai un o’r gwasanaethau newydd cyntaf sy’n cael eu darparu yw casgliadau cewynnau i deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin. Bydd hyn nid yn unig yn helpu i leihau nifer y bagiau du mae pobl yn eu rhoi allan i’w casglu, ond yn ffordd gwell o lawer o waredu cewynnau ac yn atal y gwastraff rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi.”

Ailgylchu cewynnau yw un o nifer o newidiadau mae’r cyngor yn eu gwneud i’w wasanaethau gwastraff dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025.

“Mae pobl ein sir yn dweud wrthon ni’n gyson eu bod am ailgylchu rhagor, ac mae llawer mwy gallwn ni i gyd ei wneud i leihau ein gwastraff bagiau du,” meddai’r Cynghorydd Thomas.

“Byddwn ni’n cyflwyno casgliadau gwydr yn yr hydref, ynghyd â chasglu bagiau glas yn wythnosol. Yna, yn 2024 byddwn yn gwneud newidiadau pellach fel y gall aelwydydd ailgylchu hyd yn oed mwy, fel tecstilau, batris, a dyfeisiau bach a ddefnyddir yn y cartref.

“Hoffwn ddiolch i’n holl drigolion am barhau i wneud y peth iawn ac am wneud eu rhan dros yr amgylchedd, drwy ddidoli ac ailgylchu eu gwastraff. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr, a bydd casgliadau cewynnau a newidiadau eraill yn helpu trigolion i ailgylchu hyd yn oed mwy.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page