Urddas Mislif yn Sir Gaerfyrddin

Mae cynnyrch mislif ar gael am ddim i’r rheiny sydd mewn angen yn Sir Gaerfyrddin.

 

I gydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgoffa’i drigolion fod cymorth ar gael i fynd i’r afael â thlodi mislif o fewn y sir.

 

Mae cynnyrch mislif am ddim ar gael ac yn hygyrch, a hynny mewn dros 50 o leoliadau ar draws Sir Gaerfyrddin i gymaint o bobl â phosibl; heb unrhyw ffwdan, heb drafferth, a dim cwestiynau’n cael eu gofyn.

 

Ewch i dudalen we y Cyngor ynghylch Cymorth o ran Tlodi Mislif i gael rhestr lawn o’r canolfannau casglu, sy’n cynnwys y tri Hwb canol tref yn Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin.

 

Mae’r ddarpariaeth o gynnyrch mislif am ddim gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei hariannu gan Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Gartrefi: “Mae urddas mislif yn ddyhead i’n cymdeithas gyfan ei wireddi. Er gwaethaf yr argyfwng costau byw, sy’n gorfodi llawer ohonom i gyfyngu ar yr hyn rydym yn gwario arian arno, byddwn ni, fel cyngor, yn sicrhau bod gan bob person yn Sir Gaerfyrddin fynediad at gynnyrch mislif am ddim, pe bai eu hangen arnynt.

 

“Rydym yn falch, fel awdurdod lleol, o ddarparu cynnyrch mislif am ddim i’r rheiny sydd mewn angen, ac mae’r rhain yn rhai ecogyfeillgar y gellir eu hailddefnyddio, i gyfyngu ar yr effaith negyddol ar yr amgylchedd.”

 

Os ydych yn Sefydliad, yn Brosiect neu’n Fusnes yn Sir Gaerfyrddin a’ch bod yn dymuno cefnogi’r prosiect drwy ddod yn ‘Fan Dosbarthu’, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at biwrocymunedol@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01269 590216.

 

Period Dignity in Carmarthenshire

 

 

Sanitary products are being made available, for free, to those in need in Carmarthenshire.

 

In recognition of International Women’s Day, Carmarthenshire County Council is reminding its residents that support is available to tackle period poverty within the county.

 

Free period products are available and accessible, at over 50 locations across Carmarthenshire to as many people as possible; with no fuss, no hassle, and no questions asked.

 

Visit the Council’s Period Poverty Support webpage for a full list of collection centres, which include our three-town centre Hwb’s in Llanelli, Ammanford and Carmarthen.

 

The provision of free sanitary products by Carmarthenshire County Council is funded through the Welsh Government’s Period Dignity Grant.

 

Deputy Leader of the Council and Cabinet Member for Homes, Cllr. Linda Evans said: “Period dignity is an aspiration for the whole of our society to achieve. Despite the cost-of-living crisis, that forces many of us to cut back on the things we spend money on, we, as a council, will ensure that every person in Carmarthenshire has access to sanitary products, free of charge, should they need them.

 

“We are proud, as a local authority, to be providing those in need with free sanitary products, which are eco-friendly and reusable, to limit the negative environmental impact.”

 

If you are an Organisation, Project or Business in Carmarthenshire and would like to support the project by becoming a ‘Distribution Point’ then please contact us via email CommunityBureau@carmarthenshire.gov.uk or call 01269 590216.

 


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page