Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru: Dathlu ac Archifo Profiadau Asiaid Ugandaidd

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn lansio ei brosiect newydd, sef Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru, a fydd yn dathlu ac yn archifo profiadau Asiaid Ugandaidd yng Nghymru gan gofnodi’n anad dim leoedd sy’n bwysig o safbwynt diwylliannol, crefyddol a hanesyddol.

Ym mis Awst 1972, cyhoeddodd yr Arlywydd Idi Amin orchymyn i yrru Asiaid allan o Uganda, gan ddatgan y dylai Prydain gymryd cyfrifoldeb am eu deiliaid a oedd o dras Indiaidd.

Cafodd miloedd o Asiaid, gan gynnwys pobl a anwyd ac a fagwyd yn Uganda, 90 diwrnod yn unig i adael y wlad. Ffodd llawer ohonynt i’r DU heb fawr ddim eiddo ac roeddent yn falch o gael dianc o Uganda yn fyw.
Daeth mil o deuluoedd wedi’u drysu a’u trawmateiddio i ogledd Cymru ym mis Hydref 1972 a chawsant eu lletya yn y ganolfan filwrol segur yn Nhonfannau, Tywyn, Meirionnydd.

Daeth cymunedau lleol i’r adwy i gynorthwyo’r bobl a oedd newydd gyrraedd, gan gynnig rhywfaint o obaith ar gyfer y dyfodol iddynt yn yr amgylchedd anghyfarwydd a dieithr yr oeddent wedi dod iddo.

Gadawodd llawer o deuluoedd Asiaid Ugandaidd y gwersyll yn ddiweddarach er mwyn symud i rannau eraill o’r DU, ond arhosodd rhai gan ymgartrefu yng Nghymru. Gwnaethant ddylanwadu ar dirwedd ffisegol, economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol drwy adeiladu addoldai, bwytai, sinemâu ac ysgolion a chyflwyno amryw draddodiadau, gwyliau a gwahanol ffyrdd o’u mynegi eu hunain yn artistig.

Ymgartrefu yn Nhonfannau: grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau, gyda chabanau’r gwersyll ail-leoli bob ochr iddynt ar ddiwrnod oer ym mis Hydref 1972. © Casgliad Geoff Charles: Llyfrgell Genedlaethol Cymru https://viewer.library.wales/1582436#?xywh=-1%2C-335%2C3656%2C3069&cv=50

Roedd Chandrika Joshi yn un o’r rhai a oedd yn byw yng ngwersyll Tonfannau. Mae’n ddeintydd sydd wedi ymddeol ac erbyn hyn yn storïwr creadigol. Dyma oedd ei phrofiad hi:

“Dros 50 mlynedd yn ôl, fe ddes i Donfannau yn ferch bedair ar ddeg oed gyda fy nheulu o Uganda. Daethom heb unrhyw eiddo ond roedd gennym ein hiaith, ein bwyd, ein crefydd a’n straeon. Fel y mae siwgr yn toddi mewn llaeth, gwnaethom ninnau ymdoddi yn y gymuned yma yng Nghymru ac rwy’n credu bod yr holl brofiad yn fwy melys oherwydd ein bod wedi creu cysylltiad â’r tir yr ydym bellach yn ei alw’n adre.”

Bydd Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru: Dathlu ac Archifo Profiadau Asiaid Ugandaidd yn casglu, yn arddangos ac yn archifo straeon megis stori Chandrika. Bydd y rhain yn rhan o archif y Comisiwn (Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru) a Chasgliad y Werin, a byddant ar gael ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Meddai Christopher Catling, Prif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol: ‘Mae’n bryd bod casgliadau cenedlaethol fel ein rhai ni’n cydnabod y ffyrdd niferus y mae pobl o dras Asiaidd Ugandaidd wedi newid a chyfoethogi diwylliant Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn pennu’r patrwm ar gyfer nifer o ymdrechion yn y dyfodol i gofnodi treftadaeth y sawl sydd wedi dod o hyd i loches yng Nghymru – o bobl y cychod o Fietnam a ddaeth yma yn 1975 i ffoaduriaid mwy diweddar oherwydd y rhyfel yn Wcráin.’

“Byddwn yn gweithio gyda phob cymuned Asiaidd leol i gyd-greu’r prosiect hwn, ac yn cydweithio â phobl sydd wedi cael profiadau go iawn. Mae croeso i bawb gyfrannu eu straeon, gwirfoddoli a chynorthwyo’r prosiect. Drwy gasglu, arddangos ac archifo atgofion, ffotograffau, ffilmiau, gweithiau llenyddol ac arteffactau, byddwn yn olrhain siwrnai pobl o’r adeg pan gawsant eu gyrru allan o’u gwlad i’r gwytnwch y bu’n rhaid iddynt ei feithrin,” medd Perminder Dhillon, Arweinydd Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru: Dathlu ac Archifo Profiadau Asiaid Ugandaidd.

Iaith ryngwladol pêl-droed yn helpu plant i ddod i adnabod ei gilydd yng Ngwersyll Tonfannau! Ffotograffau drwy garedigrwydd Delyth Lloyd Williams, gyda diolch i Lyfrgell Tywyn https://cbhc.gov.uk/wythnos-ryng-ffydd-2022-british-ugandan-asians-at-50/

Gellir cysylltu â’r prosiect yma: prosiecttag@cbhc.gov.uk.

Caiff y prosiect hwn ei gyllido gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’i rhaglen i sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Bydd y prosiect yn cael ei lansio ar-lein ddydd Iau 5 Hydref 2023 am 5.00pm gydag anerchiadau, arbenigwyr gwadd a chyfweliadau. I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/launch-of-the-welsh-asian-heritage-project-tickets-716011899867?aff=oddtdtcreator

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page