MAE preswylwyr yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa bod newidiadau i gasgliadau biniau ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Os yw gwastraff fel arfer yn cael ei gasglu ar ddydd Llun, bydd casgliadau nawr yn digwydd ddydd Sadwrn, 17 Medi. Mae hyn hefyd yn effeithio ar gasgliadau gwastraff gardd a hylendid.
Gofynnir i breswylwyr gosod ei biniau mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu os gwelwch yn dda, a chofiwch, dim mwy na thri bag du bob pythefnos.
Ailgylchwch gymaint â phosib yn eich bagiau glas os gwelwch yn dda, a rhowch unrhyw wastraff bwyd yn eich biniau gwyrdd, sy’n cael eu casglu’n wythnosol. Bydd casgliadau ar gyfer gweddill yr wythnos yn parhau fel yr arfer.
Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar gau ddydd Llun Gŵyl y Banc.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ac i gadarnhau pryd mae eich casgliad, ewch i sirgar.llyw.cymru/ailgylchu
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.