O 1 Hydref, ni fydd peiriannau talu ac arddangos ym meysydd parcio Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn yr hen ddarnau £1.
Mae arwyddion yn cael eu gosod ar yr holl beiriannau i roi gwybod i ymwelwyr ynghylch y newid, wrth i’r hen ddarn £1 ddod i ben.
Cyflwynodd y Mint Brenhinol y darnau 12 ochr newydd ym mis Mawrth ond mae peiriannau talu ac arddangos y Cyngor wedi parhau i dderbyn yr hen ddarnau crwn ers hynny.
Bydd y Cyngor yn diweddaru’r bocsys arian yn y peiriannau o ddechrau mis Hydref ymlaen.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Drafnidiaeth: “Rydym wedi caniatáu ychydig o fisoedd o ewyllys da tra oedd yr hen ddarnau £1 yn dal i gylchredeg ond bellach mae’n rhaid i ni ddiweddaru’n peiriannau i dderbyn y darnau punt newydd yn unig. Rydym eisoes wedi gosod arwyddion i roi gwybod i yrwyr felly gobeithio na fydd y newid yn achosi gormod o anghyfleustra ym mis Hydref.”
Mae’r incwm o feysydd parcio talu ac arddangos y Cyngor yn cefnogi cynlluniau parcio a thrafnidiaeth ledled y sir.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn darparu dros 15,000 o lefydd am ddim bob blwyddyn fel rhan o’r ymdrechion i gefnogi masnach yng nghanol y trefi
Gall siambrau masnach canol tref a thimau gwella busnes ledled prif drefi’r sir wneud cais am i’r Cyngor gael gwared ar y ffioedd parcio hyd at bum gwaith y flwyddyn a hynny fel rhan o’u hymgyrchoedd a’u digwyddiadau.
Yn ogystal, cynigir parcio am ddim ym maes parcio Coleshill, Llanelli sy’n agos at ganol y dref, bob penwythnos.
Ewch i www.sirgar.llyw.cymru i ddod o hyd i feysydd parcio Cyngor Sir Caerfyrddin ac i gael gwybodaeth ynghylch prisiau parcio.
