Y Gymraeg mewn addysg bellach yn “gam naturiol” i ddysgwyr

Digwyddiad yn yr Eisteddfod yn cynnig chwyddwydr ar feysydd Iechyd a Gofal a Chwaraeon ac Awyr Agored.

Ar Ddydd Gwener 11 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol bydd tri chorff addysg, Cymwysterau Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dod at ei gilydd i drafod y Gymraeg mewn addysg bellach yng nghwmni Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr a’r Gymraeg, drwy gynnig cymwysterau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, darparu staff addysgu cyfrwng Cymraeg a darparu adnoddau i gefnogi dysgwyr a phrentisiaid yn y colegau addysg bellach ledled Cymru.

Fel rhan o’r digwyddiad bydd cyfle i dynnu sylw at arferion da yn y meysydd Iechyd a Gofal, a Chwaraeon ac Addysg Awyr Agored er mwyn dangos sut mae’r gwaith yn y sector addysg bellach yn cyfrannu at greu siaradwyr Cymraeg hyderus a gweithlu dwyieithog y dyfodol.

Meddai Rhodri Jones, dysgwr sy’n astudio yn y maes chwaraeon yng Ngholeg Menai:

“Mae gallu cwblhau gwaith coleg trwy gyfrwng y Gymraeg wedi helpu fi a fy ffrindiau a disgyblion eraill yn yr adran chwaraeon i gwblhau gwaith i safon well achos Cymraeg yw ein hiaith gyntaf a’r iaith ni fwyaf cyfforddus yn siarad. Hefyd, fe wnes i fynychu ysgol gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg, felly roedd astudio fy nghwrs coleg drwy gyfrwng y Gymraeg yn gam naturiol”

Dywed Guto Williams, Hwylusydd y Gymraeg yn Grŵp Llandrillo Menai:

“Mae llawer o bobl ifanc isio parhau i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hastudiaethau ar ôl gadael ysgol ond weithiau angen rhyw hwb fach neu ‘chydig o anogaeth, a dyna ydi fy rôl i. Wrth annog trafodaethau yn y Gymraeg, cefnogi’r gwaith o ddatblygu neu ganfod adnoddau Cymraeg a dwyieithog, a chodi ymwybyddiaeth o fanteision bod yn ddwyieithog, dwi wedi gweld cynnydd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg ar lawr y dosbarth ac yn eu hastudiaethau, ac mae hyn yn braf i’w weld.”

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cyflogi 2,000 o staff ac yn darparu cyrsiau i tua 21,000 o fyfyrwyr, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr addysg uwch, ledled Ynys Môn a siroedd Conwy, Dinbych a Gwynedd.

Fel sefydliad addysg bellach sy’n cynnig nifer uchel o gyrsiau a phrentisiaethau dwyieithog yng Nghymru a thu hwnt, mae Grŵp Llandrillo Menai yn ymwybodol iawn o’i rôl allweddol wrth gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Meddai Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad:

“Mae Grŵp Llandrillo Menai, fel y prif ddarparwr addysg ddwyieithog ol-16 yng Nghymru yn ymfalchïo yn y bartneriaeth sydd gennym gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu ac ehangu ymhellach ar ystod y ddarpariaeth alwedigaethol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Grŵp.

 

“Mae’r Grwp wedi ymrwymo i ddatblygu a chefnogi datblygiad rhagor o gymwysterau cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid ac yn croesawu’r cyfle i gyfrannu i’r sgwrs gyda Cymwysterau Cymru a’r Coleg Cymraeg ar faes yr Eisteddfod”.

 

Cymwysterau Cymru yw’r rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol yng Nghymru, a’i phrif nod yw sicrhau bod cymwysterau, a’r system gymwysterau, yn effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru, a hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru. Meddai David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad:

“Mae sicrhau fod cymwysterau addas ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi’r economi a’r cymunedau yng Nghymru yn hynod bwysig ac wedi bod yn daith.

“Mae’r cyd greu a’r gwaith partneriaeth o fewn y sector addysg bellach yn rhywbeth i’w ddathlu, rydym yn falch o allu dweud ein bod wedi ac yn parhau i wrando ar ein partneriaid gan gynnwys cyflogwyr a dysgwyr.

 

“Mae’r digwyddiad hwn yn yr Eisteddfod yn gyfle da i ddangos natur gydweithredol y daith o ddarparu cyfleoedd Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid mewn colegau addysg bellach.”

 

Fel sefydliad sy’n cydweithio’n agos gyda cholegau addysg bellach, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr er mwyn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio Cymraeg a dwyieithog i bawb, mae’r Coleg Cymraeg yn edrych ymlaen fawr i fod yn rhan o’r digwyddiad. Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg:

 

“Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i ddathlu ac i lwyfannu’r gwaith arbennig sydd wedi ei gyflawni ar y cyd gan y tri chorff yn darparu cyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid ledled Cymru. Cawn gyfle hefyd i drafod y cynlluniau cyffrous sydd ar y gweill i ehangu’r ddarpariaeth er mwyn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

 

Dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

“Mae’n bleser gallu ymuno gyda phartneriaid addysg Cymru i glywed mwy am eu gwaith yn cefnogi’r Gymraeg yn y sector ôl-16. Mae creu mwy o gyfleodd i bobl ifanc ddysgu a hyfforddi drwy’r Gymraeg yn hanfodol at gyrraedd Cymraeg 2050. Mae’r ddarpariaeth yn cefnogi dysgwyr lleol i ddatblygu eu sgiliau gwaith a’u sgiliau i ddefnyddio’r Gymraeg ar yr un pryd.

 

“Mae’r meysydd galwedigaethol yma yn allweddol i economi Cymru ac mae’n enghraifft o’r gwaith da sy’n dod o gronni adnoddau ac arbenigedd i baratoi dysgwyr at bywyd, dysgu a gwaith.

“Mae datblygiadau o’r fath yn mynd i chwarae rhan bwysig wrth gyflwyno rhaglen uchelgeisiol Bil Addysg Gymraeg sydd yn gofyn am weithredu ar sawl lefel. Edrychaf ymlaen at y daith sydd o’n blaenau.”

Bydd y digwyddiad ym mhabell Grŵp Llandrillo Menai (unedau 317 i 320) ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd am 12:30 – 13:30 dydd Gwener 11 Awst, 2023.

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page