Hanes cyfoethog ac amrywiol yr enw ‘Kaermerdin’

WRTH ymchwilio i enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, ble arall fyddai Dr James January-McCann, sef swyddog enwau lleoedd y Comisiwn Brenhinol, yn cychwyn onid Caerfyrddin?

Wrth sôn am ei waith, dywedodd Dr James January-McCann fod y wefan newydd yn datgloi hanes bron 350,000 o enwau lleoedd yng Nghymru.

Mae’r adnodd a gyflwynwyd yn ddiweddar ar gyfer enwau lleoedd hanesyddol yn cofnodi etifeddiaeth gyfoethog enwau lleoedd a ddefnyddiwyd ledled Cymru i ddisgrifio nodweddion daearyddol, aneddiadau, tramwyfeydd, busnesau a hyd yn oed eiddo unigol yn hanes hirfaith a diddorol Cymru.

Wrth fynd i’r wefan https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk a chlicio ar Gaerfyrddin, bydd casgliad o faneri coch yn datgelu’r holl amrywiadau ar enw’r dref. Gellir olrhain yr enwau hyn hyd at 2,000 o flynyddoedd yn ôl ac maen nhw’n cynnwys Muridono, Lann Toulidauc icair, Chaermerthin, Kaermerdin a llawer mwy.

At ei gilydd, mae’r wefan yn datgelu bron 350,000 o enwau lleoedd hanesyddol ledled Cymru a gasglwyd o’r Arolwg Ordnans, mapiau degwm a gwaith ymchwil i enwau aneddiadau cynharach a gyflawnwyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru.

Rhoddwyd sylw i ddryswch hyfryd enw hanesyddol Caerfyrddin yn rhifyn 65 o gyhoeddiad yr hydref y cylchgrawn Heritage in Wales. Mae enwau’r lleoedd sydd ar y rhestr yn adlewyrchu’r gwahanol ffurfiau a sillafiadau a roddwyd iddynt ers yr Oesoedd Canol a rhywbryd cyn hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Dwristiaeth, bod y wefan yn offer ymchwilio addysgol a phwerus sy’n hynod o ddiddorol.

“Mae’n briodol iawn fod Caerfyrddin, a adnabyddir fel y dref hynaf yng Nghymru, wedi cael sylw sylweddol ar y wefan, ac rwyf yn sicr y bydd hyn yn darparu gwybodaeth gyfoethog ac amrywiol i fyfyrwyr, ymwelwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn treftadaeth gyfoethog ein tref.

“Caerfyrddin yw’r dref hynaf yng Nghymru i bobl fyw ynddi yn barhaus ac mae ganddi gysylltiadau balch iawn â’r Rhufeiniaid a chwedlau Arthuraidd y dewin Myrddin. Dywedwyd gan rai mai yng Nghaerfyrddin y ganed y dewin.”

Ar yr adnodd ar-lein newydd hwn, gallwch bori drwy’r rhestr am enw lle neu gôd post penodol, chwyddo’r map i ddod o hyd i’ch lleoliad, neu edrych drwy waith mapio presennol neu orffennol yr Arolwg Ordnans.

Mae’r rhestr eisoes yn nodedig, ond bydd yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf wrth i ragor o waith ymchwil gael ei ychwanegu ati.

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: