RYDYM yn annog pawb i fod yn ddoeth trwy drefnu eu brechiad ffliw yn gynnar, mynd i’r fferyllfa leol â mân anhwylderau, a chadw llygad ofalus ar deulu, ffrindiau a chymdogion.
Â’r gal war ysbytai yn cynyddu, mae’n holl bwysig mai dim ond y rhai hynny sydd â’r angen mwyaf am ofal arbenigol neu argyfyngol sy’n mynychu Adrannau Brys. Gall trigolion chwarae eu rhan a helpu i leddfu’r pwysau ar ein staff clinigol trwy wneud Dewis Doeth a sicrhau eu bod yn defnyddio’r gwasanaeth gofal iechyd mwyaf priodol i ddiwallu eu anghenion.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cydweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol a’r trydydd sector ar gynllun gaeaf er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod prysur sydd i ddod. Mae’r cynllun hwn ar gael ar wefan y bwrdd iechyd ac mae’n nodi sut mae’r sefydliad yn paratoi i redeg ei wasanaethau yn y modd mwyaf llyfn posibl er mwyn sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu 24 awr y dydd.
Eleni, mae’r bwrdd iechyd yn cyfeirio pobl tuag at fferyllfeydd cymunedol, a all weld a thrin pobl â mân anhwylderau ac osgoi iddynt orfod mynd at y Meddyg Teulu neu i’r Uned Frys.
Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cwmpasu 26 cyflwr y gall fferyllydd, os yn briodol, eu hasesu a rhoi meddyginiaeth ar eu cyfer yn ddi-dâl a hynny heb bresgripsiwn. Mae’r gwasanaeth yn galluogi cleifion i geisio cyngor neu driniaeth gan fferyllfa gymunedol sy’n rhan o’r cynllun, yn hytrach na’u Meddyg Teulu, ar gyfer rhestr ddiffiniedig o anhwylderau.
Mae cleifion yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i ddefnyddio gwasanaeth Brysbennu a Thrin y bwrdd iechyd mewn fferyllfeydd cymunedol sy’n rhan o’r cynllun os oes ganddynt fân anaf neu salwch. Nod hyn oll yw i leihau’r pwysau ar adrannau brys y gaeaf hwn.
Gyda chyfnod y Nadolig ar y gorwel, mae gweithwyr iechyd ar draws Cymru yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechlyn ffliw cyn gynted â phosibl, i’w helpu nhw yn ogystal â’n hysbytai i fod yn ddi-ffliw ar hyd y gaeaf.
Mae arbenigwyr atal heintiau yn atgoffa pobl i beidio ag ymweld â chleifion mewn ysbytai na chartrefi gofal os ydynt wedi body n teimlo’n anhwylus, er mwyn cyfyngu ar ledaeniad cyflyrau megis Norofirws a ffliw.
Dywedodd Joe Teape, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae pawb yn ymwybodol o’r pwysau sydd ar ein timoedd prysur dros fisoedd y gaeaf, ond dyw pobl ddim mor ymwybodol o effaith hyn ar y cleifion hynny sydd â’r anghenion mwyaf brys.
“Ar yr adeg hon o’r flwyddyn mae ein gwasanaethau rheng flaen yn dibynnu ar gleifion yn gwneud y penderfyniadau cywir am y lefel o ofal sydd ei angen arnynt; er enghraifft, os ydych chi’n mynychu adran frys brysur gyda salwch a ellir ei drin gan fferyllydd cymunedol, gall hyn amharu a chreu pwysau ychwanegol nes ymlaen a gall arwain at oedi yn nhriniaeth y rhai hynny sydd ag anghenion gofal brys.
“Mae’r gaeaf yn gyfnod hir a heriol i’r GIG bob blwyddyn, felly rwyf am annog pobl i wneud eu gorau glas i wneud Dewis Doeth ac i’n helpu ni i sicrhau mai ond y rhai hynny sydd â’r angen mwyaf am ofal argyfyngol neu arbenigol sy’n ei gael.”
Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Jeremy Williams, Cyfarwyddwr Clinigol Gofal heb ei Drefnu: “Mae nifer o’r bobl sy’n dod i’n hadrannau brys yn sâl iawn ac yn mynychu’n briodol. Fodd bynnag, mae hi hefyd yn wir bod rhai pobl â chyflyrau llai difrifol yn mynychu – cyflyrau a fyddai’n well eu hasesu a’u trin gan ddarparwyr gofal iechyd eraill.
“Yn aml, petai nhw’n defnyddio un o’n gwasanaethau gofal iechyd cymunedol, er enghraifft, mae’n debygol y byddent yn cael gofal priodol a hynny’n llawer cynt, nag y nein hunedau brys. Yn ogystal â helpu pobl i gael eu gweld cyn gynted â phosibl, byddai hyn yn y pen draw y nein helpu i achub bywydau.”
Am fwy o wybodaeth ar gynlluniau gaeaf y bwrdd iechyd a chyngor ar sut y gallwch helpu, ewch i: www.bihyweldda.wales.nhs.uk/gofalygaeaf
Discover more from Carmarthenshire News Online
Subscribe to get the latest posts sent to your email.