Mae’r Llywodraeth Lafur yn llusgo ei thraed ynghylch gwella’r aer a anadlwn, yn ôl honiad yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas.
Mae cyfres o gwestiynau gan Blaid Cymru wedi datgelu fod y Llywodraeth Lafur yn cymryd ei hamser dros fframwaith am barth aer glân i Gymru.
Mae ansawdd aer yn bwnc a ddatganolwyd. Fis diwethaf, beirniadwyd Llywodraeth Cymru gan y grŵp amgylcheddol ClientEarth am ‘gynlluniau annigonol’ a diffyg ‘camau pendant’ i fynd i’r afael â llygredd aer.
Mae Client Earth yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DG dros lygredd aer.
Meddai AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas
“Mae’n siomedig fod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn llusgo’i thraed dros lygredd aer. Efallai na fydd ymgynghoriad ar unrhyw fframwaith am barth aer glân i Gymru yn digwydd tan ddiwedd Ebrill y flwyddyn nesaf.
“Yn gynharach eleni, pleidleisiodd y Llywodraeth Llafur yn erbyn tri o welliannau Plaid Cymru i Fil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) i fynd i’r afael â llygredd aer, gan gynnwys creu strategaeth genedlaethol ar lygredd aer, cyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar rybuddio trigolion am lefelau llygredd uchel, a chyhoeddi canllawiau i gynghorau lleol ar fonitro llygredd aer y tu allan i ysgolion a llwybrau teithio llesol.
“Mae Plaid Cymru hefyd wedi ymgyrchu i sicrhau fod gorsaf bŵer Aberddawan yn gostwng allyriadau anghyfreithlon a chael ymrwymiad cyfreithiol ar Ysgrifenyddion Cabinet Llafur ym Mae Caerdydd i gynhyrchu strategaeth i Gymru er mwyn lleihau llygredd aer.
“Llygredd aer yw’r ail achos uchaf o farwolaeth gynnar wedi smygu, ac mae’n lladd 2,400 o bobl cyn eu hamser bob blwyddyn yng Nghymru. Mae hyn yn cyfrif am 6% o’r holl farwolaethau cynnar, sy’n golygu mai llygredd aer yw un o’r argyfyngau iechyd cyhoeddus mwyaf a wynebwn.
“Mae ymchwil o UDA wedi dangos y gall byw mewn ardal lle mae llygredd aer yn uchel gynyddu eich perygl o gael canser o 10% a dengys ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru ei hun gysylltiad clir rhwng ansawdd gwael yr aer a thlodi ac amddifadedd.
“Gallai Brexit caled gan y Torïaid a’r DUP weld dileu targedau llygredd aer a llygru’r aer yn waeth, gan mai o’r Undeb Ewropeaidd y daw llawer o’n deddfwriaeth.
“Llygredd aer yw un o’r problemau iechyd cyhoeddus sy’n ein hwynebu ni a’n cymunedau. Bu ymateb y Llywodraeth Lafur hyd yma yn swrth a thruenus.”