Cystadleuaeth Adloniant Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr

Ar y 23ain a 24ain o Chwefror 2023, cynhelir cystadleuaeth Adloniant Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach. Ar Nos Iau y 23ain bydd CFfI Llannon a CFfI Llanymddyfri yn perfformio trwy gyfrwng y Saesneg a mi fydd CFfI Dyffryn Cothi a CFfI Llanllwni yn perfformio yn trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac i gloi yr Adloniant ar Nos Wener 24ain bydd CFfI Capel Iwan, CFfI Llangadog a ChFfI Capel-Arthne yn perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y ddwy noson yn dechrau am 7yh a phris mynediad bydd £6 i’r cyhoedd a £3 i’r aelodau. Hoffai Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ddiolch yn fawr i noddwyr y gystadleuaeth sef Shuffle bottom a Chyngor Sir Gâr.


Discover more from Carmarthenshire News Online

Subscribe to get the latest posts sent to your email.

You cannot copy any content of this page