Chwilio am gynrychiolwyr ffermwyr ar gyfer menter newydd bwysig Cyswllt Ffermio

Mae proses recriwtio ar y gweill i gyflogi 10 ffermwr i helpu i lywio darpariaeth a gwasanaethau rhaglen cymorth amaethyddol flaengar Cymru.
Mewn cyfnod o newid sylweddol i amaethyddiaeth yng Nghymru, mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn sefydlu Grŵp Llywio Ffermwyr i wneud popeth o helpu i gynyddu ymgysylltiad â’r gwasanaeth i ddarparu adborth pwysig.

Bydd y ffermwyr yn cynrychioli’r diwydiant ehangach, meddai Euryn Jones, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Cyswllt Ffermio.

Bydd eu cyfrifoldebau’n cynnwys darparu adborth ar y gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cael y ddarpariaeth a chyrhaeddiad gorau posibl ac i ddatblygu strategaethau sy’n hyrwyddo amcanion craidd y rhaglen.

Dywed Mr Jones y bydd y Grŵp hefyd yn cael ei annog i herio’r sefyllfa, er mwyn helpu i wthio ffiniau o fewn y rhaglen.

“Rydym am weld busnesau’n gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau Cyswllt Ffermio felly bydd ein cynrychiolwyr ffermwyr yn cael eu herio i awgrymu ffyrdd o gyrraedd busnesau nad ydynt wedi ymgysylltu â gweithgareddau’r rhaglen, neu’n wir y rhai sydd wedi cofrestru ac nad ydynt wedi manteisio ar y gwasanaethau, er mwyn cynyddu nifer yr ymyriadau fesul busnes,” meddai.

Gofynnir i ffermwyr a rhanddeiliaid y diwydiant enwebu cyd-ffermwr gyda’i ganiatâd ef neu hi.

Mae’r Rhaglen Cyswllt Ffermio newydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2025, cyn i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd gael ei gyflwyno.

Dywed Mr Jones fod ei rôl yn bwysicach nawr nag erioed.

“Nod y Rhaglen yw cefnogi’r diwydiant amaethyddol, trwy gyfnod o newid sylweddol i ddatblygu a dod yn fwy gwydn, cystadleuol ac i fod mewn gwell sefyllfa i ffynnu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio fwyfwy ar y farchnad,” meddai.

Bydd y Grŵp yn cyfarfod pedair gwaith, ar-lein ac wyneb yn wyneb, a bydd llwyfan cyfathrebu pwrpasol i ddarparu adborth a chyfnewid syniadau.

Bydd ffermwyr yn cael eu recriwtio o bob rhan o Gymru ac o wahanol sectorau, lleoliadau demograffig a daearyddol.

Mae’r ffenestr ymgeisio nawr ar agor a bydd yn rhedeg tan 31 Gorffennaf 2023. I gyflwyno enwebiad ac i gael rhagor o fanylion, edrychwch ar wefan Cyswllt Ffermio ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page