Posibilrwydd y bydd angen i Gyngor Sir Gâr ddod o hyd i arbedion o £22m

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, gan fod costau cynyddol chwyddiant, prisiau bwyd ac ynni ynghyd â mwy o alwadau byd-eang am nwyddau a gwasanaethau, yn golygu bod y cyngor yn wynebu diffyg sylweddol yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.

Yn y sefyllfa orau posib, bydd yn rhaid i’r cyngor ddod o hyd i arbedion o £6.2m, sydd dros 50% yn uwch na’r hyn a ddisgwyliwyd yn flaenorol, ond gallai’r ffigwr hwn gyrraedd £22m hyd yn oed.

Mae Cabinet y cyngor wedi cytuno i lunio cynigion a allai sicrhau’r arbedion sylweddol hyn.

Bydd cynghorwyr a swyddogion bellach yn cydweithio i ddatblygu cynigion ond, wedi degawd o leihau ei wariant ac oni bai bod cyllid sylweddol yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae’n rhaid i’r cyngor bellach gynnig cwtogi rhai o’i wasanaethau.

Cyn bo hir, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgysylltu â’i breswylwyr i gael eu barn a’u syniadau er mwyn sicrhau’r arbedion hyn ac wedyn yn lansio ymgynghoriad swyddogol cyn unrhyw benderfyniadau terfynol.

Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Sir Gaerfyrddin, gan fod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu diffygion mawr yn eu cyllidebau yn sgil yr hinsawdd economaidd fyd-eang.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:

“Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn deall pam rydym yn wynebu’r sefyllfa ariannol hynod anodd hon fel cyngor – sefyllfa na welwyd ei thebyg ers blynyddoedd lawer. Mae’r camau hyn yn cael eu gorfodi ar bob awdurdod lleol ledled y wlad, gan fod yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y diffygion sylweddol hyn yn ein cyllidebau y tu hwnt i’n rheolaeth.

“Mae costau ynni deirgwaith yn fwy, yn rhannol oherwydd y rhyfel yn Wcráin, sy’n golygu y bydd yn costio £10m ychwanegol i ni, y cyngor, wresogi ein hadeiladau – sy’n cynnwys ysgolion, cartrefi preswyl a chanolfannau hamdden.

“Mae’n rhaid ystyried chwyddiant a’i effaith ar gyflogau hefyd. Y llynedd, cyllidebwyd 4% ar gyfer codiadau cyflog ond ni allai neb fod wedi rhagweld lefel chwyddiant o 10% a’r gofynion cyflog llawer uwch wedi hynny. Ar ôl cynnal pleidlais ymhlith ei aelodau, mae UNSAIN newydd dderbyn cynnig codiad cyflog o ychydig o dan £2,000 i’w holl aelodau mewn llywodraeth leol. Mae hyn yn cyfateb i godiad cyflog o 10% ar gyfer y staff sy’n derbyn y cyflogau isaf, a chyfartaledd o 7% ar draws gweithlu’r cyngor.

“Mae hyn, a ffactorau eraill, wedi arwain at ddiffyg heriol iawn rhwng £6.2m a £22m yn y gyllideb i’r cyngor hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

“Efallai y bydd rhai yn gofyn pam mae amrywiad yn y diffyg a ragwelir yn ein cyllideb. Mae’n werth nodi mai dim ond 20% o’n hincwm sy’n dod o’r dreth gyngor. Daw’r rhan fwyaf o’n cyllid o’r Grant Cynnal Refeniw sy’n setliad amrywiol rydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru, sydd yn ei dro, yn dibynnu ar yr arian y mae’n ei gael gan Lywodraeth y DU.

“Mae pob 1% rydym yn ei gael gan Lywodraeth Cymru yn cyfateb i £3m, ond mae pob 1% rydym yn ei gael o’r dreth gyngor yn cyfateb i ychydig o dan £1m. Nes y cawn wybod faint o arian y byddwn yn ei gael eleni gan y llywodraeth, nid ydym yn gwybod yn union beth fydd y diffyg.

“Fodd bynnag, rydym yn gwybod y bydd o leiaf £6.2m, a £22m yn y sefyllfa waethaf posib, ac, fel pob cyngor arall, mae’n rhaid i ni, yn ôl y gyfraith, bennu cyllideb gytbwys.

“Fel cynghorau lleol, rydym wedi wynebu dros 10 mlynedd o doriadau i’n cyllid, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mewn gwirionedd, yn Sir Gaerfyrddin, rydym dros £100m yn waeth ein byd nag yr oeddem ddegawd yn ôl.

“Mae’n bwysig bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa; pa opsiynau y byddwn yn eu hystyried; eu barn ar yr opsiynau hynny, ac unrhyw awgrymiadau sydd ganddynt. Bydd hyn yn ychwanegol at y broses ymgynghori statudol tua diwedd y flwyddyn, ar ôl i ni wybod beth fydd setliad y Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru.

“Yn y cyfamser, mae’r broses fewnol yn parhau o ran ystyried y mesurau lleiaf niweidiol o arbed arian, cynyddu incwm, a chwtogi gwasanaethau ac rwy’n ddiolchgar iawn am swyddogion sydd wedi llunio rhestr fanwl ac anodd iawn o opsiynau.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni hefyd, ynghyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, lobïo Llywodraeth y DU am gymorth llawn yn wyneb y cynnydd mewn prisiau ynni, a Llywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol sylweddol. Fel arall, rydym yn wynebu gostyngiad digynsail mewn gwasanaethau a/neu gynnydd ffigwr dwbl yn y dreth gyngor.”

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal ymgynghoriad i gael barn pobl am gynlluniau arfaethedig y cyngor i sicrhau arbedion, cyn cytuno ar ei gyllideb ar gyfer 2023/24. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page