Rhaid i San Steffan ail-feddwl am gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau– Plaid Cymru

Meddyliwch eto am gau swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli – dyna oedd y neges mae AC y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas wedi’i anfon at y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 26 Ionawr eleni, gosododd y Gweinidog Cyflogaeth Damian Hinds allan gynigion am ddyfodol holl stad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys cau’r swyddfa yn Llanelli fyddai’n golygu colli 146 o swyddi o’r dref.

Daeth yr alwad gan Blaid Cymru ar i Lywodraeth San Steffan ail-feddwl am eu cynigion cyn cyfarfod briffio yfory ( 4 Gorffennaf 2017 yn Nhŷ Hywel)  i Aelodau Cynulliad gan Ysgrifennydd Cyffredinol undeb llafur y PCS, Mark Serwotka, ynghyd â chynrychiolwyr o’r mannau gwaith fyddai’n dioddef yr effaith.

Mae Simon Thomas wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd David Gauke yn gofyn i Lywodraeth San Steffan roi’r gorau i gynlluniau i gau Swyddfa Cyflwyno Budd-daliadau Llanelli.

Meddai AC y Canolbarth a’r Gorllewin dros Blaid Cymru Simon Thomas:

“Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd David Gauke i ail-asesu’r cynigion i gau’r swyddfa yn Llanelli ac i adolygu’r penderfyniad i symud swyddfeydd a chyd-leoli yn y Drenewydd, Llandrindod ac Ystradgynlais.

“Yr oedd yna bryder yn Llanelli a’r rhanbarth y byddai’r cau yn nhref Llanelli yn golygu colli swyddi. Byddai adleoli’r swyddi yn golygu swyddfeydd mor bell i ffwrdd â Doc Penfro a Chaerdydd. Anodd iawn fyddai i rywun sy’n byw yn Llanelli neu’r cyffiniau deithio yno.

“Dylai’r Torïaid fod yn buddsoddi yng nghanmol trefi, fel y mae Cyngor Sir Gâr dan arweiniad Plaid Cymru yn wneud, nid tynnu swyddi allan o Lanelli.

“Mae llawer o’r gweithwyr yn Llanelli yn hŷn ac yn fenywod, gyda chyfrifoldebau gofal. Mae’n warth o beth na wnaed unrhyw werthuso cydraddoldeb ar effaith y symud arnynt hwy a’u cleientiaid.”

Mae’r Aelod Cynulliad hefyd wedi lleisio pryderon am y cynnig i symud Canolfan Waith Ystradgynlais i’r llyfrgell leol. Mae Undeb y PCS wedi dweud fod y llyfrgell yn rhy fach i gartrefu’r gwasanaethau sy’n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd o’r Ganolfan Waith.

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: