MAE Parc Stephens yng Nghydweli bellach wedi cael ei reoli gan y gymuned ers dros ddwy flynedd ar ôl i’r ased gael ei drosglwyddo’n llwyddiannus yn 2015.
Roedd y Parc yn un o nifer o asedau hamdden y cynigiodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu trosglwyddo ac yn un o’r cyntaf a drosglwyddwyd i ofal y gymuned leol.
Cynigiodd y Cyngor Sir grant o ddwywaith y costau cynnal a chadw blynyddol i’r sefydliadau hynny a oedd wedi mynegi diddordeb mewn rheoli asedau cymunedol, ac roedd y grant yn mynd yn llai bob mis o Ebrill 2017 ac wedyn yn dod i ben yn gyfan gwbl i’r rheiny nad oeddent wedi cwblhau’r gwaith trosglwyddo asedau erbyn Ebrill 2018.
Hyd yn hyn, mae diddordeb wedi cael ei fynegi mewn tua 82% o’r safleoedd sydd ar gael, ac mae tua hanner o’r rhain eisoes wedi cael eu trosglwyddo i ofal sefydliadau lleol.
Yng Nghydweli, daeth defnyddwyr y parc at ei gilydd i ffurfio cymdeithas i sicrhau dyfodol y cyfleuster, ac i wneud gwelliannau.
Dywedodd Brian Rees, Cadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Parc Cydweli: “Pan ddwedwyd wrthym fod y parc yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r clybiau chwaraeon, roeddem yn bryderus iawn y gallai chwaraeon yng Nghydweli fod mewn perygl.
“Fodd bynnag mae chwaraewyr a phwyllgorau’r clybiau chwaraeon sy’n defnyddio’r parc wedi ffurfio cymdeithas ac wedi gweithio’n galed i wella’r parc, a hynny yn unol â safon nad oedd wedi’i gweld o’r blaen.
“Roedd y gymdeithas yn ddigon ffodus i gael cymorth gan fusnes lleol, sef Burns Pet Nutrition, oedd wedi’n helpu i brynu peiriannau i’n galluogi ni, fel gwirfoddolwyr, i gadw’r parc yn ei gyflwr presennol.
“Mae’n bwysig ein bod ni, fel cymdeithas, yn parhau i ddarparu’r cyfleusterau gwych hyn ar gyfer defnyddwyr yn y gymuned yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir dros Asedau: “Mae Cydweli yn stori lwyddiannus arall lle mae’r gymuned leol nid yn unig wedi diogelu’r cyfleuster ond hefyd wedi gweithio i’w wella.
“Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae’r gymdeithas yn parhau i ffynnu ac yn dangos sut y gall rheolaeth leol wella cyfleusterau er budd pobl leol.
“Rwy’n falch o gynnydd ein rhaglen trosglwyddo asedau a’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o’r cymunedau yn ymateb. Mae’n amlwg eu bod nid yn unig am gadw’r cyfleusterau ond hefyd, mewn llawer o achosion, maen nhw am eu gwella er budd pobl leol.”
