Tir Coed yn ennill Gwobr Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn dau grant tua diwedd 2022 gyda chyfanswm o dros £200k o Wobr Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru 2022-24, ar gyfer y ddwy flynedd o weithgaredd. Mae hyn yn cynnwys y cyllid allweddol ar gyfer darparu prosiectau AnTir Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ac Antir Ceredigion a Phowys, fydd i’w cyfateb ag ystod o roddwyr grant eraill ac incwm a enillir. Mae’r prosiectau’n ein galluogi i weithio gyda dros 1000 o bobl i wella coetiroedd, gerddi cymunedol a mannau sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar gyfer natur a chymunedau lleol, wrth wella hyder a sgiliau cyfranogwyr a dyfarnu unedau achrededig i’w dysgu a’u cyflawniad. Mae AnTir yn ehangu darpariaeth coetir Tir Coed i gynnwys tyfu bwyd sy’n gyfeillgar i natur, arferion adfywio fel adfer perthi, dolydd neu berllan – a sgiliau treftadaeth ehangach.

 

Cyrsiau Garddwriaeth Gynaliadwy Newydd
Mae ein tîm achredu wedi bod yn mynd y tu ôl i’r llenni yn datblygu cwrs achrededig Garddwriaeth Gynaliadwy newydd sbon i’n timau sirol ei gyflwyno o’r gwanwyn hyd at yr hydref. Bydd y cwrs 20 wythnos hwn yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth hyfforddeion o dyfu bwyd cynaliadwy a garddio bywyd gwyllt, wrth ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i gyflogaeth neu hunangyflogaeth yn y maes.


Beth sy’n digwydd yn agos atoch chi?
Mae ein timau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys eisoes yn brysur yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi, sesiynau gweithgaredd pwrpasol a gweithgareddau masnachu i grwpiau ar draws y pedair sir. Mae ganddynt galendr llawn o weithgareddau coetir a thyfu wedi’u trefnu trwy gydol y flwyddyn.

Sir Gaerfyrddin:
Bu hyfforddeion ar ein Cwrs Gwaith Saer Coetir diweddar ym Mrechfa yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau bach ac yn adeiladu storfa goed gan ddefnyddio pren wedi’i gynaeafu’n gynaliadwy a sgiliau gwaith coed traddodiadol. Ochr yn ochr â’n cyrsiau, mae ein tîm yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn brysur gyda’r ddarpariaeth ychwanegol o weithgareddau plannu coed cymunedol ar safle coetir coffa Cyfoeth Naturiol Cymru, Brownhill.

 

Ceredigion:
Mae hyfforddeion ar ein cwrs Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy diweddar wedi bod yn ymarferol mewn nid un ond dau safle’r gaeaf hwn; Coed Tyllwyd a Choed Llanina. Maent wedi gwneud gwaith coedlannu ar y ddau safle, atgyweirio stepiau a chreu ffens wehyddu hardd yng Nghoed Tyllwyd a phlannu coed a gwrych o amrywiaeth cymysg yng Nghoed Llanina.

Sir Benfro:
Rydym wedi cael amser gwych yn cyflwyno sesiynau lles gyda chymorth grant lleol ‘Byw’n Dda y Gaeaf Hwn ‘ gan Gyngor Sir Benfro. Roedd y sesiynau’n cynnwys crefft llwyni, gwehyddu helyg, plannu coed a chrefftau coetir. Rydym hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth godi grant Gwella Sir Benfro, a gynlluniwyd i wrthbwyso effeithiau negyddol perchnogaeth ail gartrefi yng nghymunedau Sir Benfro. Bydd hyn o dan arweiniad ein Cydgysylltydd Nancy Hardy, sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod mamolaeth y mis hwn, yn ein galluogi i wneud cysylltiadau newydd mewn ardaloedd nas datblygwyd yn flaenorol gan Tir Coed. Mae’r cyllid yn ein galluogi i gynnig gweithgareddau pwrpasol i oresgyn unigedd ac ymddieithrio ac i greu llu o gyfleoedd ychwanegol o fewn y sir eleni.

Powys:
Rydym yn ehangu ym Mhowys, gyda phenodiad diweddar ein Cydlynydd Datblygu Powys, Alice Read, sydd wedi bod yn brysur yn gwneud cysylltiadau ar draws y sir mewn ymgais i gyrraedd y sefydliadau hynny sy’n gweithio gyda grwpiau amrywiol ar draws rhai o’i chymunedau mwyaf, gan gynnwys y rhai yn Llandrindod a’r Drenewydd. Rydym wedi cael derbyniad da, gyda chynrychiolwyr cymunedol yn awyddus i gynnwys Tir Coed i gefnogi cleientiaid trwy gysylltiad natur ac i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer yr economi werdd wrth helpu i adfywio mannau gwyrdd. Yn y cyfamser, mae ein tîm yng Nghwm Elan wedi derbyn pedwar prentis newydd yn ddiweddar sy’n ennill sgiliau newydd wrth adeiladu gatiau ar gyfer yr ystâd, ochr yn ochr â phrentisiaid presennol sy’n adeiladu pont.


Tîm Tir Coed:
Mae’n bleser gennym graesawu Jenna Morris, sy’n cwblhau tîm arwain Tir Coed fel ein Cyfarwyddwr Datblygu a Chyfathrebu a Chyd-Brif Swyddog Gweithredol newydd.
Canlyniadau Ysbrydoledig
Darllenwch ein Adroddiad Effaith 2022 i weld y canlyniadau gwych o’r llynedd ac i gael straeon ysbrydoledig am sut rydym wedi cefnogi ein hyfforddeion trwy ddysgu a lles. Symudodd 81% syfrdanol o hyfforddeion ymlaen i hyfforddiant pellach, cyflogaeth, hunangyflogaeth neu wirfoddoli.

Ydy ymgysylltu â Tir Coed wedi cael effaith gadarnhaol ar eich bywyd? A fyddech chi’n fodlon ysgrifennu tysteb fer i helpu i sicrhau cyllid i barhau â’n gweledigaeth o gysylltu mwy o bobl â choetiroedd a mannau gwyrdd? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â: Jenna Morris dev.director@tircoed.org.uk – gadewch i ni fod yn rhan o’r ateb gyda’n gilydd!

 

Cefnogi ein Gwaith

Ydych chi wedi gosod her i chi’ch hun ar gyfer 2023? Eisiau gwneud rhediad noddedig neu naid bynji i help i hyrwyddo gwaith cadarnhaol Tir Coed?

Cewch eich ysbrydoli gan Leila Sharkland, Ymddiriedolwr Tir Coed, sy’n ymgymryd â thaith feicio elusennol i godi arian i ni a sefydlu eich digwyddiad codi arian eich hun, neu ddarganfod ffyrdd eraill o gyfrannu a chefnogi ein gwaith yma.

Unlike  other news outlets, Carmarthenshire News Online does not receive massive advertising revenue or large grants. We thrive on reporting on local and national news for the people of Carmarthenshire and an extended online audience. We are  free from commercial or political influence and we report without fear, favour or prejudice. We hold those in power to account. We provide all the news for free, for everyone to read. We do need your help to continue. For as little as £1 donation you can contribute to keeping local democratic reporting alive. Your contribution will enable us to keep the news machine going and ensure the future of local news for Carmarthenshire. Every contribution is welcome and will have an impact on independent journalism. We thank you in advance. Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page

%d bloggers like this: