Heddiw (Dydd Mercher 9fed Awst) galwodd Liz Saville Roberts AS a Dafydd Wigley am ddatganoli rheolaeth lawn dros ein hadnoddau dŵr er mwyn mynd i’r afael â phroblemau carthion mewn dyfrffyrdd, ac i helpu i leihau biliau dŵr.
Beirniadodd y ddau y model bresennol, sy’n golygu na fedr Lywodraeth Cymru atal na rheoli trosglwyddiad dŵr o Gymru gan gwmnïau preifat sydd wedi’u lleoli’n bennaf yn Lloegr, ond sydd gan awdurdodaeth yn ymestyn i Gymru.
Bu’r ddau yn siarad yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mewn digwyddiad a gadeiriwyd gan yr ymgeisydd seneddol Plaid Cymru ar gyfer sedd newydd Bangor Aberconwy, Catrin Wager.
Yn y digwyddiad, dywedodd Dafydd Wigley:
“Mae’r cloc yn tician, ac mae angen sicrwydd gan lywodraeth Cymru eu bod yn effro i’w cyfrifoldeb i warchod tiriogaeth a buddiannau Cymru; yn hytrach na dod i gytundeb wasaidd gyda San Steffan a chwmnïau dŵr Lloegr.
Rhaid inni gael y sicrwydd hyn rwan, mewn du a gwyn ac yn ddi-droi nol. Achos os bydd newid llywodraeth yn San Steffan ar ôl yr etholiad nesaf, faint allwn ni wedyn ymddiried yn y Blaid Lafur yn Senedd Cymru i warchod buddiannau Cymru pan ddônt dan bwysau gan Keir Starmer a’i griw, a fydd – unwaith eto – yn rhoi buddiannau San Steffan goruwch buddiannau Cymru?”
Cyfeiriodd Ms Saville Roberts at ganfyddiadau y Comisiwn Silk, a argymhellodd datganoli dŵr yn llawn – fel sydd eisoes yn wir yng Ngogledd Iwerddon ac yr Alban. Bu hefyd yn feiriniadol o Lywodraeth Cymru am ohirio datganoli’r pwerau hyn er bod Deddf Cymru 2017 yn caniatáu eu trosglwyddo.
Dywedodd Ms Saville Roberts:
“A dweud y lleiaf, mae’n sefyllfa gwbl annigonol bod ein llywodraeth etholedig ein hunain yn gwrthod cyfrifoldebau dros ein hadnoddau naturiol. Mae methiant Llywodraeth Cymru i fynnu’r pwerau’n ffurfiol yn profi unwaith eto mai dim ond Plaid Cymru sy’n barod i sefyll dros Gymru.
Mae’r smonach gyfansoddiadol dros ein hadnoddau naturiol yn dangos heb amheuaeth mai ffuglen yw’r syniad o Deyrnas Unedig. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau dros ddatganoli pwerau dros ddŵr yn llawn, fel bod penderfyniadau dros adnoddau Cymru yn digwydd yma yng Nghymru.”