MAE Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a’r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2.
Mae Arfor 2 yn rhaglen newydd a fydd yn cael ei darparu gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol a fydd yn helpu i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.
Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a chan adeiladu ar brofiad a’r gwerthusiad o raglen gynharach Arfor a lansiwyd yn 2019, bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i bedwar Awdurdod Lleol, sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi’r cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.
Bydd hefyd yn helpu o ran y canlynol:
creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (o dan 35 oed) aros yn eu cymunedau cynhenid neu ddychwelyd iddynt – gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa;
creu cymunedau mentrus mewn ardaloedd Cymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol drwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd;
manteisio i’r eithaf ar weithgarwch drwy gydweithio – er mwyn sicrhau bod arferion da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod gwaith monitro yn mynd rhagddo i sicrhau gwelliant parhaus; a
cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a’i hamlygrwydd, gan annog ymdeimlad o le a theyrngarwch lleol.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn amlinellu bod cytundeb wedi’i wneud gyda phartneriaid yn yr awdurdodau lleol ar raglen o weithgarwch a fydd yn helpu i gefnogi ein cymunedau Cymraeg. Bydd gwaith nawr yn parhau ar fanylion yr ymyriadau arfaethedig.
Bydd rhaglen Arfor 2 hefyd yn ceisio hyrwyddo dysgu a rhannu arferion da ac ehangu ein dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng yr economi a’r iaith a chanfod yr ymyriadau hynny a all wneud gwahaniaeth.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Rwy’n falch ein bod, drwy gydweithio gydag awdurdodau lleol a chyda Phlaid Cymru, wedi dod i gytundeb ar raglen strategol o ymyriadau ar gyfer Arfor 2 sydd â photensial i wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cadarnleoedd Cymraeg, gan ddatblygu ein huchelgeisiau o ledaenu ffyniant economaidd. Drwy weithio gyda’n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, rydym am gefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.”
Meddai yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:
“Drwy gydweithio rydym yn adeiladu ar lwyddiannau cynllun peilot Arfor sy’n anelu at gefnogi a thyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’i gilydd. Mae’r buddsoddiad gwerth £11m yn y cynllun hwn yn hwb uniongyrchol i economïau’r gorllewin, a fydd yn hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ymhellach ac yn helpu i warchod y Gymraeg. Rydym am sicrhau bod cymunedau yn yr ardaloedd hyn yn gallu ffynnu a bod pobl yn gallu aros yn eu cymunedau lleol i weithio neu i dyfu busnes.”
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a’r Aelod Dynodedig y pecyn ariannu newydd ar gyfer Arfor 2 yn ystod ymweliad â Chanolfan S4C, Yr Egin yng Nghaerfyrddin, a gwnaethant gyfarfod ag entrepreneuriaid lleol.
Un o amcanion sefydlu’r Egin oedd bod yn gatalydd ar gyfer hybu a chryfhau’r Gymraeg a’r economi yn Sir Gaerfyrddin. Ers agor, mae’r Egin wedi dod yn gymuned brysur o greadigrwydd lle mae ffocws ar rannu, cydweithio a datblygu busnes.
Cafodd y Gweinidog a’r Aelod Dynodedig flas ar fêl Sir Gaerfyrddin gan gwmni Mêl Gwenyn Gruffydd, busnes o Sir Gaerfyrddin a wnaeth elwa ar gam cyntaf Arfor.
Dywedodd Gruffydd, cyd-sylfaenydd Gwenyn Gruffydd Cyf:
“Mae cael cymorth drwy Gynllun Arfor wedi golygu bod busnes mêl bach fel ein un ni wedi cael cyfle i ffynnu mewn cymuned Gymraeg wledig. Mae wedi caniatáu i fi a fy ngwraig weithio’n llawn amser yn y busnes ac wedi ein galluogi i greu swydd Gymraeg arall o fewn y busnes hefyd. Mae wedi golygu ein bod wedi gallu aros yng nghefn gwlad y Gorllewin, adeiladu busnes, creu swyddi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy ein gwaith. Mae bod yn rhan o Arfor wedi ein galluogi fel busnes i gyfrannu at y Gymraeg drwy roi sgyrsiau a chyflwyniadau i grwpiau lleol a’r gymuned hefyd.”
Meddai Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price:
“Rydym yn falch y bydd busnesau a chymunedau yn Sir Gaerfyrddin yn gallu manteisio ar gymorth o raglen Arfor a fydd yn darparu cyfleoedd economaidd ar draws y sir yn ogystal â chefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y Gymraeg.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan sefydliadau a busnesau lleol am eu cysyniadau cyffrous i feithrin a chynnal ethos y rhaglen Arfor newydd.
Drwy gydweithio gyda phartneriaid Arfor ledled y Gorllewin, mae gennym gyfle i gyflwyno rhaglen o ymyriadau arloesol a fydd yn crisialu’r berthynas rhwng y Gymraeg a’r economi.”
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:
“Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi unwaith eto yng Nghynllun Arfor, er mwyn parhau â’r gwaith o gefnogi twf ecoomaidd, a chefnogi’r Gymraeg yng nghadarnleoedd y Gymraeg yng Nghymru.
Mae pobl ifanc ac economi Ceredigion eisoes wedi elwa o gefnogaeth o dan gynllun gwrieiddiol Arfor, a mi fydd y buddsoddiad pellach yma’n hwb i’n hymdrechion i wireddu twf economaidd a chyfleoedd i bobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd sy’n bodoli i feithrin gyrfaeodd llwyddiannus yma yng Ngheredigion.”