Sir Gaerfyrddin yn chwarae ei rôl ar Ddiwrnod y Ddaear

Nodwyd Diwrnod y Ddaear ar dydd Sadwrn, 22 Ebrill, ac er ei fod yn achlysur byd-eang, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gyflymu ei ymrwymiad a’i gyfraniad at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ar ôl datgan argyfwng natur ei hun yn 2022.

 

Ers 1970, mae Diwrnod y Ddaear yn cael ei nodi bob blwyddyn ar draws y byd, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o’r angen i warchod yr amgylchedd naturiol, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu adnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Yn unol â’r thema ar gyfer Diwrnod y Ddaear 2023, sef ‘Buddsoddi yn ein planed’, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o fod wedi buddsoddi ei amser, ei adnoddau a’i egni i wella amgylchedd y sir a chyfrannu at yr achos byd-eang i lliniaru effaith newid hinsawdd. Dyma ychydig o enghreifftiau o sut yr ydym yn buddsoddi yn ein planed.

 

Canolfan Ddysg Caerfyrddin

Yn ddiweddar, cwblhawyd gwaith yng Nghanolfan Ddysg Caerfyrddin er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni a sicrhau lleihad o 76% yn ei hallyriadau carbon. Mae mesurau ôl-osod sy’n cynnwys insiwleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl, a gwelliannau i doeau wedi’u gweithredu er mwyn cadw mwy o wres yn yr adeilad. Nid yw’r Ganolfan Ddysg bellach yn ddibynnol ar gyflenwad nwy gan fod Paneli Haul a Phwmp Gwres o’r Awyr yn darparu ynni a gwres i’r adeilad. Mae goleuadau LED effeithlon o ran ynni hefyd wedi’u gosod.

 

Nid yn unig y mae’r gwaith uwchraddio wedi lleihau’r effaith yr adeilad ar yr amgylchedd, mae hefyd wedi gwella’r cysur a’r profiad i’r rhai sy’n gweithio ac yn dysgu yn yr adeilad.

 

Plannu Coed

Er mwyn helpu i wella amgylchedd Awdurdod Sir Caerfyrddin a chynyddu bioamrywiaeth, trefnodd Tîm Cadwraeth Wledig ac Adran Eiddo y Cyngor i blannu dros 8,000 o goed llydanddail brodorol i greu 4.5 hectar o goetir newydd ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn Nhre-gib (Llandeilo), Pendre (Cydweli) a Maesdewi (Llandybïe). Cynhaliwyd diwrnodau plannu cymunedol, gan gynnwys diwrnod ar gyfer disgyblion o Ysgol Gynradd Llandybïe, mewn dau o’r lleoliadau.

 

Wrth i goed dyfu a ffotosyntheseiddio, byddant yn gwaredu allyriadau carbon o’r atmosffer. Bydd y coetiroedd newydd hyn yn gynefinoedd newydd i fywyd gwyllt ac felly’n cyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng natur ac yn dod yn fannau lle gall pobl fwynhau byd natur.

 

Cynlluniau Meithrinfa Goed yn ein canolfannau dydd

Mae cynlluniau wedi’u creu gan Dîm Cadwraeth y Cyngor, gyda chymorth yr Ardd Fotaneg, ar gyfer Meithrinfa Goed a thiroedd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt gael eu datblygu yng Nghanolfan Ddydd Tre Ioan. Gyda chymorth ariannol gan gynllun cyllido ‘Lleoedd ar gyfer Natur’, bydd yr ardd yn cynnwys ardal dyfu yn yr awyr agored a gardd synhwyraidd hygyrch, gardd goetir, gardd gors, ardaloedd dolydd a pherllan. Er bod y prosiect yn cael ei gynnal yng nghanolfan Tre Ioan, bydd yn cynnwys yr holl wasanaethau dydd drwy gasglu a phlannu hadau brodorol. Mae yna gynlluniau hefyd ar y gweill i gynnal prosiect tebyg yng Nghanolfan Ddydd Ffordd y Faenor. Bydd yr ardd nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth yr ardal, ond bydd hefyd yn ofod diogel a hygyrch i bawb ei fwynhau.

 

Pryfed Peillio

Dros nifer o flynyddoedd, ar draws Prydain, bu dirywiad enfawr mewn pryfed sy’n peillio ein blodau gwyllt, a’n cnydau, a elwir hefyd yn bryfed peillio. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried ffyrdd o reoli glaswelltir fydd yn ei wneud yn gyfoethocach mewn blodau gwyllt ac yn fwy deniadol i bryfed peillio. Yn syml, drwy dorri’n llai aml, gall blodau sydd eisoes yn tyfu yn y gwair flodeuo a hefyd cefnogi pryfed. Does dim angen hau hadau blodau gwyllt. Yr haf diwethaf, arbrofodd y Cyngor gyda’r dull newydd hwn a chafodd groeso brwd gan breswylwyr a oedd yn mwynhau gweld y glaswelltiroedd llawn blodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae’n addas iawn mai thema Diwrnod y Ddaear eleni yw ‘Buddsoddi yn ein Planed’ gan mai dyma’r union beth yr ydym yn ei wneud yma yn Sir Gaerfyrddin i ddatgarboneiddio’n hinsawdd ac amddiffyn ein hamgylchedd naturiol.

 

“Ar draws holl wasanaethau’r Cyngor, rydym yn gweithredu newidiadau, mawr a bach, a fydd yn lleihau allyriadau carbon y sir i chwarae ein rhan yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â newid a gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwell, iachach i’n plant a phlant ein plant i fyw ynddo.”

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cefnogi Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru – 24 i 30 Ebrill 2023 ac yn annog preswylwyr ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin i fentro i’r awyr agored a darganfod beth sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w gynnig. I gael syniadau am leoedd i ymweld â nhw yn y sir, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.

 

I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Ddiwrnod y Ddaear 2023, ewch i www.earthday.org/earth-day-2023/

Carmarthenshire plays its role in Earth Day

Saturday, April 22, marked Earth Day and whilst this is a truly global occasion, Carmarthenshire County Council is committed to accelerate its commitment and contribution to combating climate change having itself also declared a nature emergency in 2022.

 

Since 1970, Earth Day is marked annually across the globe with its purpose to raise awareness for the need to protect the natural environment, tackle climate change and to protect natural resources for future generations.

 

In line with the theme for Earth Day 2023, which is ‘Invest in our planet’, Carmarthenshire County Council is proud to have invested its time, resources and energy to improving the county’s environment and contribute to the global cause mitigate against the impacts of climate change. Here are a few examples of how we are inviting in our planet.

 

Carmarthen Learning Centre

Work has recently been completed at Carmarthen Learning Centre to make it more energy efficient and reduce its carbon emissions by 76%. Retrofit measures that include cavity wall insulation, double glazing, and roof improvements have been implemented to improve the heat retention of the building. The Learning Centre is no longer reliant on a gas supply as Solar Panels an Air Source Heat Pump provide energy and heat to the building. Energy efficient LED lighting have also been installed.

 

Not only has the upgrade works reduced the building’s environment impact, it has also improved the comfort and experience for those who work and learn in the building.

 

Tree Planting

To help improve Carmarthenshire’s Authority’s environment and increase biodiversity, the Council’s Rural Conservation Team and Property Department arranged the planting of over 8,000 native broadleaved trees to create 4.5 hectares of new woodland on Council owned land at Tregib (Llandeilo), Pendre (Kidwelly) and Maesdewi (Llandybie). Community planting days, including a day for pupils from Llandybie Primary School, were held at two of the locations.

 

As trees grow and photosynthesise, they will extract carbon emissions from the atmosphere. These new woodlands will provide new habitats for wildlife and thus contribute to addressing the nature emergency and become places where people can enjoy nature.

 

Tree Nursery Plans at our Day Centres

Plans have been put together by the Council’s Conservation team, with the help of the Botanic Gardens, for a Tree Nursery and wildlife friendly grounds to be developed in Johnstown Day Centre. With financial support from ‘Places for Nature’ funding scheme, the garden will include an accessible outdoor growing area and sensory garden, a woodland garden, a bog garden, meadow areas and an orchard. Although the project is taking place at the Johnstown centre, it will involve all day services through the collecting and planting of native seeds. There are also plans for a similar project to take place at Manor Road Day Centre. Not only will the garden improve the biodiversity of the area, but it will also provide a safe and accessible space for all to enjoy.

 

Pollinators

Over many years, across Britain, there has been a huge decline in insects which pollinate our wildflowers, and our crops, also known as pollinators. Carmarthenshire County Council currently is looking at ways of managing grassland that will make it both richer in wildflowers and more attractive to pollinators. Simply by cutting less frequently, flowers that are already growing in the grass can flower and also support insects. There is no need to sow wildflower seed. Last summer the Council experimented with this new approach and it was well received by residents who enjoyed seeing the flower rich grasslands that appeared.

 

Cabinet Member for Climate Change, Decarbonisation and Sustainability, Cllr. Aled Vaughan Owen said: “It is very apt that this year’s theme for Earth Day is ‘Invest in our planet’ as this is exactly what we are doing here in Carmarthenshire to decarbonise our climate and protect our natural environment.

 

“Across all of the Council’s services, we are implementing changes, both big and small, that will reduce the county’s carbon emissions to play our part in the global effort to tackle change and make Carmarthenshire a better, healthier place for our children and our children’s children to live.”

 

Carmarthenshire County Council is also supporting Wales Outdoor Learning Week – 24 to 30 April 2023 and encouraging residents and visitors to Carmarthenshire to veture out into the outdoors and discover what Sir Gâr has to offer. For ideas of places to visit in the county, please visit the Discover Carmarthenshire website.

 

To find our more information about Earth Day 2023, please visit www.earthday.org/earth-day-2023/

 

 

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page