Cwmni o Lanelli wedi cyflenwi cit i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Busnes o Lanelli, a gyflenwodd legins hyfforddi i Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022.

Dim ond ers mis Mehefin 2020 mae Onesta wedi bod yn masnachu ond eisoes mae’r cwmni’n darparu dillad i bobl fel Rosie Eccles, Anwen Butten ac Alys Thomas wrth iddynt gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.

Dyluniwyd y legins gan fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru, Beth Jones ac Olivia Soady, a enillodd gystadleuaeth ddylunio a osodwyd gan Gemau’r Gymanwlad Cymru mewn partneriaeth â’r Brifysgol. Gweithiodd Beth ac Olivia mewn partneriaeth ag Onesta i gynhyrchu 360 pâr o legins gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, wedi’u hailgylchu.

Ers iddo ddechrau masnachu, dros ddwy flynedd yn ôl, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi Onesta, nid yn unig yn ystod pandemig COVID-19, ond hefyd i wireddu uchelgeisiau hirdymor y cwmni. Ym mis Mehefin 2021, dyfarnwyd grant Cronfa Cadernid Economaidd o £2,500 gan Gyngor Sir Caerfyrddin i Onesta fel cymorth i dalu’r biliau busnes yn ystod cyfyngiadau COVID-19 ym mis Mai a mis Mehefin 2021. Cawsant hefyd Grant Ardrethi Annomestig o £2000 yn ystod cynlluniau cymorth COVID-19 ym mis Chwefror 2022.

Ym mis Ebrill 2022, dyfarnwyd Grant Tyfu ac Adfer Busnes o £10,000 i Onesta er mwyn helpu i brynu offer gweithgynhyrchu a chelfi swyddfa a gweithdy. Bydd yr arian grant yn ariannu bwrdd torri, amylwr, peiriant torri, haearn diwydiannol, peiriant gwnïo diwydiannol a chlobwytho, a fyddai’n helpu i weithgynhyrchu’r dillad ar gyfer Tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru 2022.

Enwebwyd sylfaenydd y cwmni, Gabriella Diana, gan y Cyngor ar gyfer Gwobrau Busnesau Newydd Cymru yn 2021 ac aeth ymlaen i ennill y categori Sêr Disglair.

Ers hynny, mae Onesta hefyd wedi ennill Gwobr Gynaliadwyedd Marie Claire ar gyfer Brand Bach Cynaliadwy Gorau 2021, Gwobr Entrepreneur Cymdeithasol UnLtd, a chyrhaeddodd y rownd derfynol yng Ngwobrau ‘Cardiff Life’ 2021 a Gwobrau GBEA 2021.

Cafodd Onesta ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth Heroes of Net Zero mewn seremoni wobrwyo arbennig, dan ofal Intuit, yn Uwchgynhadledd Rhyngwladol Newid yn yr Hinsawdd COP26 yn Glasgow.  Bu dros 160 o fusnesau yn cystadlu yn y gystadleuaeth, gan wneud ymrwymiad yn Hwb Hinsawdd Busnes y DU i gyflawni sero-net erbyn 2050, yn unol ag ymrwymiad y llywodraeth ei hun o ran hinsawdd. Cawsant ganmoliaeth uchel yn y categori microfusnesau am ddangos ystod o fesurau a gymerwyd ar eu taith i sero-net, gan gynnwys cyrchu deunyddiau ecogyfeillgar yn lleol, cael gwared ar gemegion gwenwynig a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu ac ailddefnyddio sgrapiau o ffabrig i wneud cynhyrchion cynaliadwy ar gyfer Surfers Against Sewage.

Dywedodd Gabriella Diana, Sylfaenydd a Pherchennog Onesta

“Roeddwn i wrth fy modd pan gawsom wybod bod Tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi ein dewis ni i ddarparu eu legins. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn gan ein bod ni wedi bod yn mesur yr athletwyr a chreu’r dillad. Rwyf mor falch o’u gweld nhw’n cael eu gwisgo ar y llwyfan rhyngwladol yr wythnos nesaf.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Caerfyrddin am y cymorth ariannol rydym wedi ei dderbyn, nid yn unig i oroesi cyfyngiadau COVID-19 ond hefyd i adeiladu’r busnes a llwyddo.”

Hyd yma, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo grantiau busnes i 60 busnes o Sir Gaerfyrddin. Rhennir hyn yn 43 o grantiau twf ac 17 o grantiau cychwyn busnes.

Ers lansio cynllun Grant Tyfu a Cychwyn Busnes yn gynnar yn 2022, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo 61 o grantiau busnes i fusnesau Sir Gaerfyrddin. Roedd 44 o rhain yn Grantiau Tyfu ac Adfer Busnes, a oedd yn gyfanswm o £299,225.17, a 17 arall yn Grantiau Cychwyn Busnes, a oedd yn gyfanswm o £117,924.31.

Meddai y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Fel awdurdod lleol, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu buddsoddi yn Gabriella a’i chwmni i’w galluogi i dyfu’r busnes. Rydym hefyd yn falch iawn o fod wedi rhoi cymorth ariannol i Onesta, a chwmnïau eraill yn Sir Gaerfyrddin, i oroesi cyfyngiadau anodd COVID-19 y ddwy flynedd a hanner diwethaf.

Rydym i gyd wedi mwynhau gwylio athletwyr Cymru yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn ddiweddar ac mae’r ffaith eu bod yn gwisgo cit sydd yn cael ei wneud yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn destun balchder mawr i Gyngor Sir Caerfyrddin.”

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online Thank you for supporting independent journalism and contributing to the future of local news in Carmarthenshire. Carmarthenshire News Online has been dedicated to providing unbiased and trustworthy news, free from commercial or political influence. By donating as little as £1, you can help ensure the continuation of this important source of information for the community. Your contribution will have a significant impact on the sustainability of independent journalism. If you're looking to enhance your brand's visibility, we also offer advertising opportunities on our Livestream and podcasts. Our special offers provide excellent value for reaching our engaged audience. To learn more about these opportunities and to discuss your advertising needs, please feel free to call or text us at 07308598604. Thank you again for your support, and together we can ensure the availability of quality local news for Carmarthenshire and beyond.

Please donate here: Support Carmarthenshire News Online

You cannot copy any content of this page